Mae’r RSPCA yn rhybuddio bod “cynnydd brawychus” yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu gadael gan eu perchnogion yng Nghymru eleni.
Dywed staff a gwirfoddolwyr yr elusen eu bod wedi gorfod delio hefo 2,427 o achosion o anifeiliaid wedi cael eu gadael yng Nghymru ers dechrau’r flwyddyn.
Yng Nghymru a Lloegr, mae 29,770 o achosion wedi eu cofnodi eleni – sy’n gynnydd o 33% ers 2009.
Yn ddiweddar, daeth y RSPCA o hyd i gwn bach tair wythnos oed yn farw mewn bocs ar ochr y ffordd yn Sir y Fflint. Fe gawson nhw eu gadael yn ardal Lloc, ger bwyty McDonalds ar Ffordd Llanelwy.
“Yr hyn sy’n dychryn rhywun yw, er ein bod ni’n genedl sy’n caru anifeiliaid, nad yw miloedd o bobol yn poeni o gwbl amdanyn nhw,” meddai Martyn Hubbard, swyddog y RSPCA yng Nghymru.
“Fe all gwyliau fel y Nadolig arwain at hyd yn oed fwy o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael, am fod rhai pobol yn dewis cael gwared ohonyn nhw yn hytrach na thalu rhywun i edrych ar eu holau os ydyn nhw’n mynd i ffwrdd.
“Ac mae pobol yn fwriadol yn gadael eu hanifeiliaid mewn llefydd anghysbell, fel biniau, er mwyn iddyn nhw farw yno.”
Ymgyrch Nadolig
Mae’r RSPCA wedi lansio ymgyrch Nadolig fydd yn edrych ar holl agweddau o waith y staff, o’r cynnydd yn nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu gadael i’r effaith mae’r tywydd yn ei gael.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sy’n fodlon cyfrannu at yr ymgyrch i anfon neges destun gyda’r gair RESCUE i 70800.