Bedd Hedd Wyn
Mae cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi talu teyrnged i Hedd Wyn gan ddweud ei fod wedi marw yn Passchendaele cyn cael ei gydnabod fel trysor cenedlaethol.
Cafodd un o gerddi’r bardd o Drawsfynydd ei ddarllen ger ei fedd yn Fflandrys yn ystod ymweliad gan Aelodau Seneddol Prydeinig a Gwyddelig yr wythnos hon.
Dywedodd yr Arglwydd German: “Mae ei bortread o ddiflastod rhyfel yn un o’r trysorau sydd gennym fel cenedl.
“Dywedodd y stori mewn ffordd y byddai llawer wedi hoffi ei glywed.
“Rydym oll yn falch iawn o’r ffaith fod gennym ni fardd symbolaidd a oedd yn gallu siarad ar ran y milwyr.”
Fe wasanaethodd Hedd Wyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, oedd hefyd yn cynnwys y beirdd Robert Graves a Siegfried Sassoon.
Bu farw Hedd Wyn, a enillodd gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn dilyn ei farwolaeth, ar ddiwrnod cyntaf y frwydr yn Passchendaele.
Claddwyd ef ym mynwent Artillery Wood yn Fflandrys yn agos at y bardd Gwyddelig Francis Ledwidge, a fu farw ar yr un dydd ym mis Gorffennaf 1917.