Mae S4C a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi arwyddo cytundeb sy’n cadarnhau’n ffurfiol y bwriad i symud pencadlys y sianel o Gaerdydd i Gaerfyrddin.
Y brifysgol oedd tu cefn i gais Caerfyrddin, a’u bwriad yw codi adeilad gwerth £8.2 miliwn ar gyfer pencadlys newydd i S4C mewn ‘Dyffryn Creadigol’ fydd hefyd yn gartref i Theatr Genedlaethol Cymru a’r Coleg Cenedlaethol Cymraeg.
Ym mis Mawrth, fe benderfynodd Awdurdod S4C i dderbyn y cais yn amodol ar gyrraedd cytundeb cyfreithiol. Roedd Caernarfon hefyd yn y ras a’r sianel hefyd yn ystyried aros yng Nghaerdydd.
Heno, fe wnaeth Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, a’r Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, arwyddo cytundeb fframwaith gyda’r bwriad fod y pencadlys yn weithredol erbyn 2018.
Carreg filltir
Wrth arwyddo’r cytundeb fframwaith, meddai Huw Jones: “Mae arwyddo’r Cytundeb Fframwaith hwn gyda’r Brifysgol yn garreg filltir bwysig iawn. Dyma gadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun uchelgeisiol hwn yn dilyn y datganiad o fwriad a gyhoeddwyd rhai misoedd yn ôl.
“Ein bwriad wrth gychwyn ar y broses hon oedd cynllunio i greu dyfodol llewyrchus i’n gwasanaeth, tra ar yr un pryd yn sbarduno datblygiadau ieithyddol a diwylliannol, ynghyd â budd economaidd, ym mro ein pencadlys newydd.
“Mae’r cytundeb hwn yn seiliedig ar y blaenoriaethau hynny, ac mae Awdurdod S4C yn edrych ymlaen yn eiddgar iawn at weld y cynlluniau’n troi’n ffaith dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.”
‘150 o swyddi’
Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor y Brifysgol “Y mae’r datblygiad hwn yn golygu adeiladu adeilad pwrpasol ac eiconig a fydd yn gartref i S4C ac yn gatalydd ar gyfer hyrwyddo creadigrwydd ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol.
“Mae’r weledigaeth yn un uchelgeisiol sy’n cynnig cyfle i greu endid unigryw a chyffrous a gaiff effaith gadarnhaol ar economi, cymunedau a’r defnydd o’r Gymraeg ar draws y De Orllewin.
Yn ôl y Cynghorydd Kevin Madge, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Bydd y symud hwn yn rhoi bod i ryw 150 o swyddi ac yn hybu’r economi leol. Yn ogystal mae’n hwb anferth i’r Gymraeg gan y bydd yn sicrhau bod swyddi o safon ar gael i siaradwyr Cymraeg.
Y cam nesaf wedi arwyddo’r cytundeb fframwaith, yw sefydlu Bwrdd Prosiect, gyda chynrychiolwyr o’r Brifysgol ac S4C, a fydd yn gyfrifol am gyflawni’r prosiect.