Lynda Bellingham
Mae’r actores a’r cyflwynydd teledu Lynda Bellingham wedi marw yn 66 oed, meddai ei hasiant.

Roedd hi wedi bod yn brwydro yn erbyn canser y coluddyn ers mis Gorffennaf y llynedd.

Bu farw ddoe “ym mreichiau ei gŵr” mewn ysbyty yn Llundain, meddai ei hasiant Sue Latimer.

Roedd yn adnabyddus am ei rhan yn chwarae’r fam yn yr hysbyseb Oxo, a bu hefyd ar banel y sioe Loose Women ar ITV.