Fe fydd radiograffwyr ar draws Cymru a gweddill y DU yn mynd ar streic heddiw am y tro cyntaf ers 30 mlynedd yn dilyn anghydfod ynglŷn â chodiadau cyflog.
Mae disgwyl i rai apwyntiadau gael eu canslo ond bydd gwasanaethau brys yn parhau yn ôl yr arfer.
Bydd aelodau o Gymdeithas y Radiograffwyr, sy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd, yn cymryd rhan yn y streic rhwng 9 y bore ma ac 1 y prynhawn ac yn gweithio i reol am weddill yr wythnos.
Mae’n dilyn cynnig o godiad cyflog “annigonol” gan Lywodraeth Cymru. Mae’r protestwyr yn dweud bod y Llywodraeth wedi anwybyddu argymhelliad gan y Corff Adolygu Cyflogau i gynnig codiad o 1% i’w holl staff.
Mae disgwyl i’r streic effeithio gwasanaethau yn adrannau radioleg Ysbyty Treforys, Ysbyty Tywysoges Cymru a Chastell-nedd Port Talbot, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn pwysleisio ba fydd yn effeithio gwasanaeth radioleg i gleifion sydd angen triniaeth frys.
Dywed Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro bod camau mewn lle i sicrhau na fydd y streic yn amharu’n ormodol ar eu gwasanaethau.
Dylai cleifion fynd i’w hapwyntiadau oni bai eu bod yn clywed yn wahanol.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf fe fydd cleifion yn cael eu hysbysu am unrhyw newidiadau i’w hapwyntiadau.
Mae disgwyl i weithwyr bicedu tu allan i Ysbyty Athroafol Cymru, Caerdydd.