Arolwg Ordnans yn mesur uchder yr Wyddfa
Yn dilyn adroddiadau bod arbenigwyr wedi darganfod mai 1086m yn hytrach na 1085m yw uchder yr Wyddfa, mae llefarydd o Arolwg Ordnans wedi cadarnhau wrth golwg360 na fydd uchder swyddogol mynydd uchaf Cymru yn newid.
Fe wnaeth arbenigwyr o G&J Surveys fesur y mynydd gan ddefnyddio technoleg mapio GPS a dod i’r casgliad fod y mynydd yn Eryri fetr yn uwch na’r hyn oedden nhw wedi ei feddwl yn wreiddiol.
Ond yn ôl Arolwg Ordnans, yr asiantaeth sy’n creu mapiau Prydain, nid oedd yr arolwg yn medru mesur copa gwreiddiol y mynydd am ei fod erbyn heddiw wedi ei orchuddio gan blatfform.
‘Copa naturiol’
“Mae Arolwg Ordnans bob amser yn edrych ar gopa naturiol mynydd. 1085m yw uchder yr Wyddfa, a dyma sy’n cael ei gydnabod yn ein mapiau,” meddai llefarydd.
“Rydym yn credu fod yr uchder yma wedi ei fesur i graig naturiol sydd erbyn hyn wedi cael ei chladdu o dan blatfform.”
“Rydym yn cydnabod fod agweddau o waith dyn yn medru cymhlethu ein hasesiadau, yn yr achos yma mae rhywbeth wedi cael ei adeiladu ar ben y copa naturiol sy’n gwneud i’r mynydd edrych fel ei fod yn uwch nag ydy o.”
“Mae Arolwg Ordnans wedi penderfynu cadw uchder gwreiddiol copa naturiol y mynydd ar ein mapiau.”