Ed Miliband
Mae’r Blaid Lafur wedi bygwth boicotio trafodaethau trawsbleidiol ar y mater o “bleidleisiau Saesneg ar gyfer cyfreithiau Saesneg”.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad oedd y sgyrsiau, sy’n cael eu harwain gan William Hague, yn ddigon gan fod angen diwygio’r system yn llwyr.

Ond fe awgrymodd Downing Street y byddai’r trafodaethau yn mynd yn eu blaen heb y Blaid Lafur, gan ychwanegu y byddai’n rhaid i blaid Ed Miliband esbonio ei absenoldeb os yw’n dewis peidio â chymryd rhan.

Mae’r ffrae wedi dechrau wrth i Aelodau Seneddol baratoi i drafod yr addewid o ragor o bwerau i’r Alban, yng nghanol honiadau gan genedlaetholwyr bod gwleidyddion San Steffan yn cefnu ar yr addewid a wnaethant cyn y refferendwm ar annibyniaeth fis diwethaf.

Fe wnaeth David Cameron wylltio cenedlaetholwyr yr Alban yn dilyn y bleidlais pan ddywedodd y dylai datganoli pellach i’r gogledd o’r ffin fynd “law yn llaw” â datrysiad i’r cwestiwn os dylai Aelodau Seneddol yr Alban gael pleidleisio ar ddeddfau sy’n effeithio ar Loegr, neu Gymru a Lloegr, yn unig.

Cafodd pwyllgor ei sefydlu, gyda William Hague yn cadeirio, i lunio ffordd ymlaen, gan wahodd arweinwyr pleidiau eraill i gymryd rhan yn y trafodaethau.