Mae’r ddwy ddynes a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth dyn 25 oed yn Wrecsam wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Bu farw’r dyn 25 oed, sydd heb gael ei adnabod yn ffurfiol eto, yn Deva Way, Parc Caia yn oriau mân fore Sadwrn.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dyn 53 oed sydd wedi ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad ac mae dyn 28 oed yn parhau yn y ddalfa yn Llanelwy.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n gallu eu helpu gyda’r ymchwiliad i’w ffonio ar 101 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.