Bryn Parry Jones, Prif Weithredwr Cyngor Sir Benfro
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud na fyddan nhw’n cymryd camau pellach yn erbyn Cyngor Sir Benfro na’i swyddogion ynghylch taliadau i ddau aelod o staff gan gynnwys y Prif Weithredwr.
Dywedodd yr heddlu mewn datganiad “nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw droseddau wedi digwydd.”
Cefndir
Ym mis Ionawr eleni fe ddechreuodd Heddlu Sir Gaerloyw ymchwiliad ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod Bryn Parry Jones a phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark James, wedi derbyn taliadau o dros £50,000 yn anghyfreithlon.
Ym mis Mai, daeth yr heddlu i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod troseddau wedi’u cyflawni, ond gofynnodd cynghorwyr i’r ddau dalu’r arian yn ôl.
Yna, ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Sir Gaerloyw eu bod yn ail-ymchwilio i honiadau fod Bryn Parry Jones wedi derbyn taliadau “anghyfreithlon”, a hynny wedi iddyn nhw dderbyn gwybodaeth newydd.
Datganiad yr heddlu
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys heddiw eu bod nhw wedi ail-ymchwilio “er budd y cyhoedd, i ganfod a oes unrhyw droseddau wedi digwydd.”
Cafodd yr ymchwiliad ei arwain gan Heddlu Swydd Gaerloyw oherwydd y cysylltiad agos rhwng Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Benfro.
Meddai’r datganiad: “Mae Heddlu Swydd Gaerloyw bellach wedi cwblhau eu hymholiadau ac wedi cadarnhau, yn dilyn dadansoddiad gwrthrychol ac annibynnol o’r dystiolaeth, nad oedden nhw wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw droseddau wedi digwydd.
“Ar sail hyn, ni fydd Heddlu Dyfed Powys yn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r materion hyn. Mae’r awdurdod lleol wedi cael gwybod am y penderfyniad.”
Ym mis Gorffennaf, dywedodd Cyngor Sir Benfro, na fyddai’n cymryd unrhyw gamau pellach i adennill yr arian gan Bryn Parry Jones ac un o uwch swyddogion eraill y cyngor wnaeth gymryd rhan mewn trefniant tebyg.
Fis diwethaf, bu pleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Bryn Parry Jones.
Nid oedd Cyngor Sir Benfro am wneud sylw ar y mater.