Llanbed
Fe fydd un o’r arbenigwyr penna’ ar ddyfodol y Stryd Fawr yn dweud wrth fusnesau mewn ardal wledig yng Nghymru bod rhaid cael mwy na siopau i ddenu pobol i mewn.
Fe fydd Bill Grimsey, cyn-bennaeth nifer o gwmnïau siopau cadwyn mawr, yn dod i Lanbedr Pont Steffan i gyfarfod pobol fusnes o’r dref a gweddill Dyffryn Teifi.
Daw hynny ar ôl i holl drefi’r Canolbarth â chael eu cynnwys mewn rhestr o 20 tref sy’n derbyn hyd at £50,000 yr un gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo cynlluniau adfywio.
‘Angen mynd at fusnesau’
Yn ôl cynrychiolwyr o Lanbed ac Aberystwyth, roedd amserlen gwneud cais yn rhy fyr i allu addasu’r cynlluniau sydd ganddyn nhw i gwrdd â’r gofynion.
Mae angen i’r Llywodraeth ddod at bobol fusnes i gael eu barn a’u helpu yn hytrach na disgwyl am geisiadau ganddyn nhw, meddai Cadeirydd Partneriaeth Llanbed, Josie Smith.
Fe ddywedodd hefyd fod angen arian i gyflogi swyddog canol tref i wneud y gwaith o farchnata’r dref a’r dyffryn.
‘Dim amser’
“Dw i’n cymeradwyo beth mae’r Llywodraeth yn ceisio’i wneud,” meddai Josie Smith. “Ond roedd yr amserlen ar gyfer rhoi cais i mewn yn rhy gyfyng.
“Pobol fusnes sy’n rhan o’r bartneriaeth, a thra bod gyda ni weledigaeth a syniadau ar gyfer y dref, does gyda ni ddim digon o wirfoddolwyr i wneud y gwaith papur.
“Mae yna ormod o fiwrocratiaeth; mae’r aelodau’n brysur yn ceisio cynnal eu busnesau ac, ar adeg prysura’r flwyddn, doedd gan bobol ddim amser.”
Dim cais o Aberystwyth
Tebyg oedd y stori yn Aberystwyth, lle’r oedd y Cyngor Tref wedi methu â chymryd y cyfle i wneud cais am yr airan.
“Doedd y cynlluniau ddim gyda ni i ymateb i’r gofynion ac, oherwydd fod yr amserlen mor gyfyng, wnaethon ni ddim manteisio,” meddai Ceredig Davies, aelod o Gyngor y Dref a Cheredigion.
Fe fydd Bill Grimsey’n dweud heno bod rhaid newid i fyw a bod rhaid troi canol tref yn ganolbwynt cymdeithasol.
Fe fydd yn galw ar gynghorau lleol i ymgynghori gyda busnesau, dod o hyd i bwynt gwerthu allweddol i bob tre a chreu cynllun pum mlynedd gyda nhw.
Wythnos gefnogi
Mae’r sgwrs yn digwydd yn ystod wythnos y Llywodraeth, Cefnogwch y Stryd Fawr, ac yn cael ei threfnu gan y cwmni datblygu economaidd, Antur Teifi.
Bill Grimsey oedd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Cwsmeriaid cynta’ Tesco ac, wedi hynny, fe fu’n bennaeth ar gusnesau fel Wickes, Iceland a Focus.
Mae wedi sgrifennu llyfr, Sold Out, am broblemau’r Stryd Fawr.