Dylai’r oedran bleidleisio gael ei ostwng i 16, yn ôl barn y mwyafrif a bleidleisiodd ar bôl piniwn golwg360.
Dywedodd 78% yr hoffen nhw weld pobl ifanc 16 ac 17 oed yn cael yr hawl i bleidleisio yn holl etholiadau Prydain, gyda 19% yn erbyn y syniad a 3% ddim yn siŵr.
Fe gododd y cwestiwn unwaith eto’r wythnos hon yn sgil refferendwm yr Alban yr wythnos diwethaf, pan gafodd dros 100,000 o bobl ifanc 16 ac 17 yr hawl i bleidleisio.
Ers hynny mae llawer o wleidyddion, gan gynnwys arweinydd y Blaid Lafur Ed Miliband, wedi dweud y dylai San Steffan ystyried gostwng yr oed pleidleisio i 16 ar gyfer holl etholiadau’r wlad o hyn ymlaen.
Ond mae eraill, fel y Prif Weinidog David Cameron, wedi bod yn fwy cyndyn i ystyried newid yr oed pleidleisio o 18, fel y mae ar hyn o bryd.
Dadansoddiad Iolo Cheung
Un peth diddorol, wrth sgwrsio â rhai o ddisgyblion chweched dosbarth Ysgol Bro Pedr yn Llanbed ddoe, oedd bod pobl 16 ac 17 ddim yn teimlo’u bod nhw’n cael digon o wersi am wleidyddiaeth ar hyn o bryd.
Roedd y farn yn eu mysg nhw wedi hollti ynglyn a yw’n bryd rhoi’r bleidlais iddyn nhw:
Mae’n amlwg fod refferendwm yr Alban wedi creu cryn dipyn o argraff ar bobl, yn enwedig yn y ffordd y llwyddodd i danio trafodaeth wleidyddol na welwyd ei debyg yn y wlad o’r blaen.
Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed y cyfle i bleidleisio am y tro cyntaf, ac mae’n amlwg eu bod nhw wedi mynd ati i wneud hynny gyda’r un brwdfrydedd a phobl llawer hŷn na nhw.
Mae’n siŵr fod rhaglenni holi fel y Big Big Debate, oedd fel rhyw fath o Pawb A’i Farn arbennig i bobl ifanc adeg y refferendwm, hefyd wedi dangos fod pobl ifanc yn fwy na pharod i drafod y cwestiynau gwleidyddol mawr, gyda miloedd ohonynt yn y gynulleidfa’n gwrando.
Yn ogystal â’r brwdfrydedd mae dadleuon cryf eraill – os ydyn nhw’n ddigon hen yn 16 i adael yr ysgol, cael swyddi, priodi, talu trethi ac ymuno â’r fyddin, pam ddim yr hawl i fynegi barn ar sut mae’r wlad honno’n cael ei rhedeg?
Ar y llaw arall, mae’r ddadl yn erbyn yn awgrymu nad yw pobl ifanc yr oed hwnnw ar y cyfan efallai’n gwybod digon am wleidyddiaeth i allu ffurfio barn ddeallus a phleidleisio eto.
Mae’n bosib bod ieuenctid yr Alban wedi eu trwytho mewn trafodaeth wleidyddol dros y blynyddoedd diwethaf mewn modd sydd jyst ddim yn digwydd yng ngweddill Prydain.
Felly efallai mai’r ateb, fel yr awgrymodd y disgyblion, yw nad yw cynnig y bleidlais yn ei hun yn ddigon – mae’n rhaid i ni hefyd eu haddysgu ynglŷn â gwleidyddiaeth a’r gymdeithas o’u cwmpas.
Canlyniadau – A ddylai pobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio?
Dylen – 78.1%
Na ddylen – 19.05%
Ddim yn siŵr – 2.86%
Nifer: 105