O heddiw ymlaen, gall busnesau sydd eisiau cofrestru eu nodau masnach gyda ICANN, ddechrau’r broses o gofrestru parthau Cymreig newydd.
Bydd yr ail gyfnod cofrestru, sy’n rhoi blaenoriaeth i fusnesau yng Nghymru, yn dechrau ym mis Tachwedd a bydd y cyfnod cofrestru i’r cyhoedd yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi 2015.
Yn ôl Nominet UK, cofrestrfa parthau y DU, bydd parthau .cymru a .wales yn cynnig “gofod gwirioneddol Gymreig ar y rhyngrwyd”.
Mae llu o sefydliadau eisoes wedi lleisio cefnogaeth gref ar gyfer y parthau newydd a nhw fydd gyntaf i danlinellu eu hunaniaeth Gymreig ar-lein.
Yn eu plith y mae Llywodraeth Cymru, S4C, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, tîm rygbi’r Sgarlets, yr Eisteddfod Genedlaethol a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Elfed Roberts, fis diwethaf, bod yr Eisteddfod yn falch iawn o fod yn rhan o .cymru a .wales.
Meddai: “Mae’n gam naturiol i ni fabwysiadu’r brand hwn, gan fod yr Eisteddfod yn un o frandiau blaenaf Cymru a’r ŵyl yn ffenestr siop arbennig ar gyfer Cymru, felly bydd cael cyfeiriad .cymru a .wales yn gaffaeliad i ni a’n gwaith.