Mae’r awdur Ian McEwan wedi beirniadu’r wefan gwerthu llyfrau Amazon gan ddweud y dylai’r cwmni “dalu ei drethi” fel pawb arall.
Dywedodd enillydd y wobr Brooker ei fod yn bryderus o’r monopoli sydd gan y cwmni o’r Unol Daleithiau yn y farchnad lyfrau ac y byddai’n hoffi gweld “tri neu bedwar Amazon” i annog cystadleuaeth.
Ond fe wnaeth yr awdur, sy’n cyhoeddi ei nofel ddiweddaraf ‘The Children Act’ yr wythnos hon, gyfaddef ei fod yn defnyddio Amazon ei hun, gan ei ddisgrifio “fel rhyw gyffur blasus”.
Dywedodd McEwan ar raglen Today ar Radio 4 heddiw: “Dwi yn poeni am fonopoli Amazon, ac mae llawer o gyhoeddwyr wedi gwrthdaro a’r wefan.
“Dyw monopolïau byth yn dda ar gyfer unrhyw fenter ac, wrth gwrs, byddwn yn hoffi petai’r cwmni yn talu ei drethi fel y gweddill ohonom.”
Ond pan ofynnwyd iddo a fyddai’n boicotio’r wefan ei hun, meddai: “Y drafferth yw ei fod fel rhyw gyffur blasus – fedrwch chi ddim maddau iddo.”