Mae Sky Sports wedi cyhoeddi na fyddan nhw’n cynnig yr opsiwn o sylwebaeth Gymraeg ar y botwm coch i gemau rhyngwladol Cymru o hyn ymlaen.

Dywedodd y darlledwyr eu bod yn cael gwared â’r gwasanaeth er mwyn canolbwyntio ar y gemau byw eraill y maent yn ei ddarlledu.

Dim ond rhyw fil o bobl oedd yn dewis gwylio gemau rhyngwladol Cymru gyda sylwebaeth Gymraeg, medden nhw, ac ar rai achlysuron dim ond ychydig o gannoedd oedd yn gwneud.

Mewn datganiad dywedodd Sky Sports fod y galw isel am y gwasanaeth y tu ôl i’r penderfyniad.

“Rydym yn ymdrechu bob amser i ddarparu gwasanaethau ychwanegol pan fo hynny’n bosib, ond mae’n rhaid i ni wneud dewisiadau yn ddibynnol ar le mae’r galw mwyaf gan gwsmeriaid,” meddai’r sianel chwaraeon.

“Gyda phwysau mawr ar ein gallu cynhyrchu a thechnegol o gynnig hyd at naw gêm ryngwladol y noson, dydyn ni ddim mewn sefyllfa ar hyn o bryd i allu cynnig gwasanaeth sylwebu ychwanegol.”

Addasu’r calendr

Daw’r newidiadau yn sgil ailstrwythuro’r ffordd y mae hawliau ar gyfer y gemau’n cael eu gwerthu, gyda UEFA nawr yn prynu hawliau pob gwlad yn ganolog.

Mae’n rhan o newidiadau i’r calendr bêl-droed fydd yn gweld ‘wythnos o bêl-droed’ Ewropeaidd, gyda gemau rhagbrofol yn cael eu gwasgaru o ddydd Iau nes dydd Mawrth fel bod mwy o gemau nag erioed yn medru cael eu dangos ar y teledu.

Mae hyn yn golygu y bydd hyd at naw gêm ryngwladol Ewropeaidd y noson i’w gael ar fotwm coch Sky Sports, ac o ganlyniad i hynny fe esboniodd llefarydd ar ran Sky Sports wrth golwg360 fod y sianel yn rhoi blaenoriaeth i’r gemau hynny yn hytrach na sylwebaeth ychwanegol yn y Gymraeg.

Ychwanegodd y llefarydd y byddai’r drefn honno’n parhau am y misoedd i ddod, ond y byddai’r sianel yn ystyried dod â sylwebaeth Gymraeg yn ôl petai sefyllfa ffafriol yn codi yn y dyfodol.

UEFA sydd bellach yn gwerthu’r hawl i ddarlledu gemau Cymru i Sky Sports, yn hytrach na bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n gwneud hynny’n uniongyrchol.

O ganlyniad i hynny doedd dim trafodaeth gyda’r darlledwr ynglŷn â chynnwys ymrwymiad i ddarlledu yn yr iaith Gymraeg.

Sky yw’r unig ddarlledwr sydd â’r hawl i ddarlledu gemau rhyngwladol Cymru ar ôl iddyn nhw gipio’r cytundeb ddegawd yn ôl, ac mae’n debygol y byddai’n rhy gostus i’r BBC ac S4C geisio’u herio.

‘Dim digon da’

Dim ond ar y radio fydd modd clywed sylwebaeth Gymraeg i’r gemau rhyngwladol bellach, ond dyw hynny ddim yn ddigon da yn ôl y sylwebydd pêl-droed Meilyr Owen.

“Mae’n biti fod o’n mynd, does dim dwywaith am hynny,” meddai Meilyr Owen. “Dylai fod gennym ni’r hawl i wrando ar y sylwebaeth [deledu] yn y Gymraeg.”

“Pan ti’n gwrando ar y radio, os wyt ti isio gwylio ar y teledu efo’r sŵn i lawr a gwrando ar y sylwebaeth, tydi’r radio a’r lluniau ddim yn mynd gyda’i gilydd.

“Mae’n anodd gwneud hynny, a fydd gen ti ddim sylwebaeth Gymraeg i wrando arni wedyn.”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud y byddwn nhw’n cwyno’n uniongyrchol wrth UEFA am y penderfyniad, gan ddweud ei fod yn “dangos mor wan yw ymlyniad y sianel at bêl-droed Cymru ac mor ddirmygus yw ymerodraeth Sky o iaith fel y Gymraeg”.