Mae Hal Robson-Kanu wedi gorfod tynnu nôl o garfan Cymru ar gyfer eu trip i Andorra’r wythnos nesaf oherwydd anaf.
Bu ymosodwr Reading yn dioddef o anaf i’w ben-glin ers rhai wythnosau, a dyw e heb chwarae dros ei glwb y tymor hwn eto.
Jake Taylor, hefyd o Reading, fydd yn cymryd ei le, gyda’r llanc 22 oed yn cael ei alw i garfan Cymru am y tro cyntaf.
Mae Taylor wedi bod yn dechrau’n gyson dros Reading y tymor hwn, ac ychydig wythnosau yn ôl fe sgoriodd unig gôl y gêm i drechu Ipswich.
Robson-Kanu yw’r ail chwaraewr i dynnu nôl o’r trip i Andorra oherwydd anaf, gyda’r amddiffynnwr Paul Dummett wedi gorfod cymryd lle James Collins eisoes.
Mae’n gadael Simon Church fel yr unig brif ymosodwr yn y garfan, er y gallai eraill fel Taylor, Tom Lawrence, George Williams a hyd yn oed Gareth Bale chwarae yn y safle hwnnw.
Dyw Cymru dal heb ddarganfod ble mae’r gêm i fod i gael ei chwarae ar 9 Medi, oherwydd bod Andorra wedi methu archwiliad hwyr gan FIFA i’w cae plastig newydd.
Os nad ydyn nhw wedi gwella cyflwr y cae ddigon erbyn dechrau’r wythnos hon, fe allai’r gêm gael ei symud i Sbaen – wythnos yn unig cyn iddi gael ei chwarae.
Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Kyle Letheren (Dundee), Owain Fôn Williams (Tranmere)
James Chester (Hull), Paul Dummett (Newcastle), Ben Davies (Tottenham), Chris Gunter (Reading), Adam Matthews (Celtic), Sam Ricketts (Wolves), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe)
Joe Allen (Lerpwl), Emyr Huws (Wigan, ar fenthyg o Man City), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Nottingham Forest)
Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton), Tom Lawrence (Manchester United), Jake Taylor (Reading), George Williams (Fulham), Jonathan Williams (Crystal Palace)