Chris Cooke wedi taro 171
Tarodd Chris Cooke 171 – ei gyfanswm unigol gorau erioed mewn gornest dosbarth cyntaf i Forgannwg – wrth i’r Cymry orffen eu batiad cyntaf ar 329 i gyd allan ar ddiwrnod cyntaf eu gornest Bencampwriaeth yng Nghaergaint.
Roedd Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn ystod sesiwn y bore, wedi iddyn nhw lithro i 7-3 – Jacques Rudolph, Gareth Rees a Will Bragg yn colli’u wicedi’n rhad.
Yr unig fatwyr eraill o Forgannwg wnaeth gyfraniad sylweddol oedd Dean Cosker (45) a Jim Allenby (44).
Gallai pethau fod wedi bod yn wahanol iawn i Cooke a Morgannwg pe bai’r slip Darren Stevens wedi cipio daliad oddi ar ymyl y bat gyda’r cyfanswm yn 15-3.
Ond cyrhaeddodd Cooke ei hanner canred oddi ar 68 o belenni wrth i’r wicedi barhau i ddisgyn y pen arall i’r llain.
Daeth ychydig o ryddhad i Forgannwg wrth i Cooke a Mark Wallace rannu partneriaeth o 58 cyn i’r capten golli’i wiced.
Gyda’r cyfanswm yn 183-7, daeth Dean Cosker i’r llain ac fe rannodd bartneriaeth o 118 gyda Cooke wrth i Forgannwg gyrraedd y 300, a Cooke wedi croesi’r 150 am y tro cyntaf erioed yn ei yrfa.
Cooke yntau oedd y batiwr olaf i golli’i wiced, ac fe ddaeth batiad cyntaf Morgannwg i ben toc cyn 6yh, a’r cyfanswm yn 329.
Pedair pelawd yn unig fu’n rhaid i Swydd Gaint wynebu, ac fe orffennon nhw ar 1-0.