Elidir Jones a Daf Prys yn y sioe gemau
Mewn byd sydd yn gynyddol ddigidol a chyda’r diwydiannau technolegol yn tyfu, efallai nad yw’n syndod fod Sioe Datblygu Gemau Cymru fel petai’n mynd o nerth i nerth.

Ychydig wythnosau yn ôl yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd fe gynhaliwyd y digwyddiad am y drydedd flynedd yn olynol, ac am y tro cyntaf roedd hi mor boblogaidd nes i drefnwyr godi ffi am fynychu.

Mae’r gynhadledd flynyddol, sydd wedi’i threfnu gan Dai Banner o Wales Interactive, yn gyfle i bobl o Gymru a thu hwnt ddod at ei gilydd i drafod y datblygiadau diweddaraf ym myd y gemau cyfrifiadurol.

Fe fydd rhai ohonoch eisoes yn gyfarwydd â Daf Prys, un o flogwyr digidol golwg360 sydd yn dod a’r diweddaraf o fyd y gemau cyfrifiadurol gyda’i flog Fideo Wyth.

Bu ef ac Elidir Jones draw yn y Sioe Gemau Cymru yn ddiweddar ar ran golwg360 a Fideo Wyth, gan sgwrsio â threfnwyr, datblygwyr, dylunwyr a mwy a phrofi rhywfaint o’r arlwy oedd ar gael.

A dyma flog diweddaraf Fideo Wyth, yn rhoi blas o beth fuon nhw wrthi’n ei wneud!