Susan Elan Jones
Mae Aelod Seneddol wedi croesawu newid yn rheolau Tŷ’r Cyffredin sy’n golygu y gall sefydliadau ac unigolion gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn y Gymraeg i’r Pwyllgor Materion Cymreig.

Yn y 1990au, roedd tystiolaeth yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor yn uniaith Gymraeg ac yna’n cael ei gyfieithu i’r Saesneg gan Swyddfa Cymru.

Ond yn y blynyddoedd diwethaf, roedd yn rhaid darparu cyfieithiad Saesneg i’r Senedd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth Gymraeg oedd yn cael ei gyflwyno.

Yn dilyn cwestiwn ffurfiol gan Susan Elan Jones, AS dros dde Clwyd, mae Clerc Tŷ’r Cyffredin wedi  cymeradwyo newid yn y rheolau sy’n golygu y bydd gan sefydliadau ac unigolion yr hawl i gyflwyno tystiolaeth yn eu mamiaith.

Cydraddoldeb

Dywedodd Susan Elan Jones ei bod yn fater o “gydraddoldeb sylfaenol” fod y Cymry yn cael cyflwyno eu tystiolaeth i’r pwyllgor yn y Gymraeg.

“Rwyf wedi meddwl erioed y dylai hi fod yn bosib cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yn y Saesneg a’r Gymraeg i unrhyw ymholiad i’r Pwyllgor Materion Cymreig,” meddai AS de Clwyd.

“I mi, mae’n fater o gydraddoldeb sylfaenol.

“Rwy’n croesawu’r newid polisi ac yn falch fod  Clerc Tŷ’r Cyffredin wedi derbyn yr egwyddor.”