Y gwasanaeth tân y tu allan i'r hen ysbyty

Mae cynghorydd yn Sir Gaerfyrddin wedi  datgan pryder am ddiogelwch hen Ysbyty’r Priordy yng Nghaerfyrddin yn dilyn tân yno neithiwr.

Cafodd y Gwasanaeth Tân ac Achub eu galw i dân yn yr hen ysbyty, sydd erbyn hyn yn wag, tua 8:32yh neithiwr ac roedd criwiau  o Gaerfyrddin a Phontiet wedi mynd yno.

Credir bod y tân wedi ei gynnau’n fwriadol.

Mae’r Cynghorydd Alun Lenny nawr wedi cysylltu â phrif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin y bore ma i weld os oes modd i’r cyngor gymryd camau ar unwaith i sicrhau na all pobl fynd i mewn i’r adeilad.

Mae hefyd wedi gofyn i’r cyngor i orfodi’r perchennog, gafodd ganiatâd cynllunio “ers tro byd” i droi’r lle’n fflatiau, i wneud gwaith i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Er bod yr adeilad yn dri llawr, dywedodd llefarydd ar ran y gwasanaeth Tan ac Achub bod y tân heb fynd yn bellach na un corridor ar y llawr gwaelod.

Roedd y Cynghorydd Alun Lenny wedi ymweld â’r safle neithiwr, yn rhinwedd ei swydd fel cynghorydd sir a thref, pan oedd y criwiau tân yn brwydro’r fflamau, i sicrhau nad oedd yn “achosi gofid i drigolion lleol”.

Ond, dywedodd wrth Golwg360 ei fod wedi dychryn gyda pha mor adfeiliedig oedd yr adeilad a’i fod nawr yn pryderu am ddiogelwch pobl sy’n mynd i mewn iddo.

‘Dolur i’r llygad’

Meddai’r Cynghorydd Alun Lenny: “Nid yw’r difrod, yn y fath adfail o adeilad, yn bwysig iawn. Yr hyn sy’n achosi consyrn mawr i mi yw’r ffaith bod diffoddwyr tân wedi mentro’u bywydau yn mynd mewn i’r fath adeilad, gyda’i loriau pwdr a’i furiau bregus – a hynny yn y tywyllwch.

“Bu’r adeilad yma’n wag ers 2001 ac yn ddolur i’r llygad ers blynyddoedd. Ond mae’n amlwg ei fod nawr hefyd yn beryg bywyd – i blant neu yfwyr trwm sy’n tresmasu ynddo, yn ogystal ag aelodau’r gwasanaethau brys all gael eu galw yno i ddelio â chanlyniadau eu gweithredoedd.

“Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, rwy wedi gofyn i Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr y bore ‘ma os oes modd i’r cyngor gymryd camau, a hynny ar unwaith, i sicrhau na all pobl fynd mewn i’r hen ysbyty. Rwy hefyd yn gofyn i’r cyngor i orfodi’r perchennog, gafodd ganiatâd cynllunio ers tro byd i droi’r lle’n fflatiau, i wneud gwaith i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.”