Maes awyr Caerdydd
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud fod ganddyn nhw bryderon sylweddol am y gwerth am arian mae’r gwasanaeth awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd yn ei roi.

Mae’r pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad ar ei ymchwiliad i gost, a’r angen am y gwasanaeth, cyn i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad ynghylch a ddylai’r gwasanaeth barhau.

Meddai’r adroddiad bod niferoedd teithwyr wedi gostwng 43% ers yr uchafbwynt yn 2008-09.

Mae’r gwasanaeth awyr wedi bod yn cynnal teithiau ddwywaith y dydd yn ystod yr wythnos ers 2007 ac wedi cael cefnogaeth ariannol ar ffurf cymhorthdal ​​gan Lywodraeth Cymru, gyda’r nod o gefnogi gwasanaeth na fyddai, fel arall, yn ymarferol yn fasnachol.

Mae’r cronfeydd hyn wedi cael eu capio ar £1.2 miliwn ar hyn o bryd, ar ôl cynnydd o £300,000.

Mae’r gwasanaeth wedi cludo 65,073 o deithwyr rhwng mis Mai 2007 a mis Ebrill 2013 am gyfanswm amcangyfrifedig o £9.01 miliwn, sy’n cynnwys costau rhedeg a datblygu’r maes awyr.

Os yw’r gwasanaeth i barhau, mae’r Pwyllgor wedi argymell yn gryf y dylai’r gweithredwr newydd llwyddiannus lunio strategaeth farchnata gynhwysfawr mewn ymgais i gynyddu nifer y teithwyr a’r nifer sy’n ymwybodol o’r gwasanaeth.

‘Tanberfformio’

Meddai Darren Millar AC, cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae’r Pwyllgor yn parhau i bryderu bod y gwasanaeth hwn yn tanberfformio o ran darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.

“Mae’n rhaid rhoi sylw i’r diffyg data dibynadwy ac annibynnol ynghylch nifer y teithwyr, gan gynnwys y mathau o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

“Mae’r Pwyllgor hefyd yn credu, os yw’r gwasanaeth i barhau gyda chefnogaeth cyllid cyhoeddus, y dylai ymgyrch marchnata cryf fod yn rhan o unrhyw gontract a ddyfernir.”