Y gwrthdystiad heddiw
Mae ymgyrchwyr wedi beirniadu agwedd y Grid Cenedlaethol tuag at ymgynghori â’r cyhoedd cyn protest heddiw yn erbyn adeiladu rhagor o beilonau ar Ynys Môn.
Bore yma mae’r Grid yn cyfarfod Cyngor Môn i gyflwyno dogfen 120 tudalen gyda’u hymateb nhw i’r sylwadau a roddodd y cyhoedd mewn ymgynghoriad yn 2012.
Fe drefnodd yr ymgyrchwyr wrthdystiad yn erbyn y broses ymgynghori hwnnw y tu allan i adeiladau’r Cyngor yn Llangefni heddiw – a dweud wrth golwg360 fod swyddogion y Grid wedi mynd mewn i’r adeilad drwy’r drws cefn er mwyn eu hosgoi.
‘Anwybyddu llais democrataidd’
Yn ôl ymgyrchwyr mae’r ddogfen nid yn unig yn ailadrodd pethau mae’r cyhoedd yn gwybod yn barod ond yn anwybyddu eu barn yn llwyr.
Mae’r ddogfen yn cydnabod fod pobl Môn wedi mynegi y buasai’n well ganddyn nhw weld ceblau tanfor yn cael eu hadeiladu, ond yn dweud o hyd mai cynlluniau’r Grid yw codi rhagor o beilonau ar draws y tir.
Roedd rhai o ymatebion yr ymgynghoriad hefyd wedi dweud nad oedden nhw’n credu y byddai barn y bobl leol yn cyfrif rhyw lawer pan fyddai’n dod at y penderfyniad terfynol, yn ogystal â chwestiynu tegwch yr ymgynghoriad.
Yn y ddogfen mae’r Grid Cenedlaethol hefyd yn cadarnhau nad oes unrhyw isafswm pellter rhwng peilonau arfaethedig a chartrefi pobl, ac na fyddai unrhyw iawndal yn cael ei dalu oni bai fod y peilonau’n cael eu hadeiladu’n uniongyrchol ar dir rhywun.
Mae hyn oll wedi cythruddo’r Aelod Cynulliad lleol, Rhun ap Iorwerth.
“Pan mae pob llais democrataidd cynrychioladol ar Ynys Môn, ar ran eu hetholwyr, yn gwrthwynebu’r peilonau, dylai’r Grid fod wedi gwrando,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae’r adroddiad yn syfrdanol yn ei sarhad tuag at y broses ymgynghori, gan fethu a chofnodi ar yr un o’i 120 tudalen fod llais democrataidd cyfunol Ynys Môn … wedi dweud ‘na’ i beilonau a ‘ie’ i geblau tanfor.”
Yn ôl y Grid Cenedlaethol mae angen y peilonau mwy er mwyn cludo pŵer o ddatblygiadau newydd fydd ar yr ynys, gan gynnwys pwerdy niwclear Wylfa B.
Ond yn ôl yr ymgyrchwyr fe fyddai rhagor o beilonau yn yr ardal yn niweidio’i harddwch naturiol, gyda’r economi leol yn dibynnu’n fawr ar dwristiaeth.
Maen nhw’n ffafrio gosod ceblau tanfor i drosglwyddo’r pŵer yn uniongyrchol i Lannau Merswy, opsiwn a fyddai’n costio mwy na pheilonau.
‘Dirmygu’ y broses ymgynghorol
Yn yr ymgynghoriad gwreiddiol fe gafwyd dros 1,500 o ymatebion gan y cyhoedd, gyda 92% ohonyn nhw’n anghytuno â chynlluniau arfaethedig y Grid Cenedlaethol i adeiladu peilonau fyddai’n llawer mwy na’r rhai presennol.
Ond yn ôl y Grid, roedd hyn yn golygu nad oedd y mwyafrif o drigolion yr Ynys wedi gwrthwynebu eu cynlluniau’n uniongyrchol.
“Mae’r ffigwr yma [1,549] yn cynrychioli canran fechan iawn o’r bobl a glywodd am y cynlluniau drwy daflenni newyddion, hysbysebion lleol a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth eraill,” meddai’r Grid Cenedlaethol.
“Fe gymerir felly fod y rheiny wnaeth ddim ymateb ddim yn teimlo’n ddigon cryf, o blaid neu yn erbyn, y cynlluniau.”
Ac roedd ymateb Rhun ap Iorwerth yn chwyrn i’r awgrym yma gan y Grid Cenedlaethol, wrth i ymgyrchwyr baratoi i ymgynnull y tu allan i swyddfa’r Cyngor Sir yn Llangefni’r bore yma.
“Dydi’r Grid jyst ddim yn deall!” mynnodd yr Aelod Cynulliad. “Mae pobl Môn yn rhy brysur yn tynnu dau ben llinyn ynghyd a gofalu am eu teuluoedd i ymateb i bob ymgynghoriad yn unigol, dyna pam maen nhw’n ethol pobl fel fi i ddweud ‘dim mwy o beilonau’ ar eu rhan.
“Wnâi ddim gadael i’r Grid ddangos y dirmyg yma i’r etholwyr ac fe fyddaf yn gweithio gyda chydweithwyr etholedig yng Ngwynedd i daclo’r diffyg democrataidd yma a siarad ag Ofgem.”