Mae Israel wedi bomio 70 o dargedau Hamas yn Llain Gaza dros nos.
Daw’r bomio diweddaraf wrth i Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ac Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau ddechrau trafodaethau yn Cairo i ddod a’r ymladd i ben.
Mae o leiaf 570 o Balesteiniaid a 29 o Israeliaid wedi marw ers i’r gwrthdaro ddechrau ar 8 Gorffennaf.
Dros nos, fe wnaeth llu awyr Israel fomio pum mosg, canolfan chwaraeon a chartref i ddiweddar bennaeth milwrol Hamas, yn ôl swyddogion yn Gaza.
Cyhoeddodd Israel y bore ma fod dau filwr arall wedi marw ddoe gan ddod a’r cyfanswm i 27. Mae dau o bobl gyffredin wedi marw ar ochr Israel hefyd.
Ddoe fe wnaeth Ban Ki-moon o’r Cenhedloedd Unedig ac ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau John Kerry gyfarfod yn Cairo i drafod y gwrthdaro.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai pobl gyffredin yw’r rhan fwyaf o’r Palestiniaid sydd wedi cael eu lladd, gyda dwsinau o blant yn eu plith.
Mae’r Aifft, Israel a’r Unol Daleithiau eisiau cadoediad diamod gyda chyfarfodydd ar drefniant ffin newydd posibl i Gaza yn dilyn hynny.
Mae Hamas, gyda rhywfaint o gymorth gan Qatar a Thwrci, eisiau codi’r gwarchae ar Gaza cyn rhoi’r gorau i’r ymosodiadau. Mae hyn oherwydd bod Israel a’r Aifft wedi cyfyngu symudiadau pobl i mewn ac allan o Gaza ers i Hamas geisio ehangu ei diriogaeth yn 2007.