Theresa May
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn cael ei gynnal i farwolaeth y cyn ysbïwr o Rwsia Alexander Litvinenko.

Mae dirgelwch ynglŷn â marwolaeth y cyn swyddog KGB a gafodd ei wenwyno ar ôl yfed te oedd yn cynnwys  sylwedd ymbelydrol, polonium-210, wrth iddo gwrdd â dau o’i gyn gydweithwyr mewn gwesty yn Llundain yn 2006.

Mae’r cyhoeddiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yn golygu y gall ymchwilwyr geisio darganfod a oedd Rwsia yn rhan o’r cynllwyn i’w lofruddio.

Hyd yn hyn mae’r Llywodraeth wedi ymatal rhag cynnal ymchwiliad cyhoeddus gan ddweud y byddai’n aros i weld beth fyddai canlyniad cwest barnwrol.

Ond mae gweddw Alexander Litvinenko wedi herio’r penderfyniad ac mae’r Uchel Lys wedi dyfarnu y dylai’r Ysgrifennydd Cartref ail-ystyried ei phenderfyniad.

Roedd Alexander Litvinenko, 43, wedi ffoi i Brydain yn 2000. Mae ei deulu yn credu ei fod wedi bod yn gweithio i MI6 pan gafodd ei ladd yn dilyn gorchymyn gan y Kremlin.

Mae cyn swyddogion y KGB, Andrei Lugovoi a Dmitri Kovtun, yn cael eu hamau o’r drosedd ond mae’r ddau yn gwadu bod ganddyn nhw unrhyw ran yn ei farwolaeth ac yn parhau yn Rwsia.