Prifysgol Caerdydd
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o brosiect sydd wedi torri tir newydd yn yr ymchwil i sgitsoffrenia.
Mae gwyddonwyr o’r farn y gallai’r darganfyddiad diweddaraf “agor drysau” i ddod o hyd i driniaethau newydd ar gyfer y clefyd.
Cafodd 83 genyn newydd sy’n gysylltiedig â sgitsoffrenia eu nodi mewn astudiaeth eang gan y Consortiwm Genomeg Seiciatrig – grŵp o fwy na 80 o sefydliadau gwahanol.
Gyda samplau gan fwy na 150,000 o bobl, roedd y gwyddonwyr yn gallu gweld gwahaniaeth rhwng dilyniant DNA’r rhai sydd â’r salwch a’r rhai sydd heb.
Dywedodd yr Athro Michael O’Donovan, o Brifysgol Caerdydd, a gymerodd rhan yn yr ymchwil: “Mae hi wedi bod yn anodd datblygu triniaethau pellach i drin sgitsoffrenia ers blynyddoedd gan nad oedd gennym ni ddealltwriaeth digon da o fioleg y clefyd.
“Mae dod o hyd i dusw hollol newydd o gymdeithasau genetig yn agor y drws ar gyfer rhagor o arbrofion i ddatgloi bioleg y cyflwr hwn a, ry’n ni’n gobeithio, at ddatblygu triniaethau newydd yn y pen draw.”