Mae Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn galw ar bobol i beidio â galw 999 pan nad oes argyfwng go iawn, gan ddweud fod gormod o bobol yn “gwastraffu amser” eu staff.

Cafodd 31,219 o alwadau nad oedden nhw’n rhai brys eu gwneud yn ystod y 12 mis diwethaf, yn ôl y gwasanaeth. Ac o’r galwadau hynny, dim ond 670 oedd angen ambiwlans a thri yn unig oedd achosion lle cafodd y claf ei gludo i ysbyty.

Roedd y galwadau yn cynnwys un gan wraig o Fangor oedd wedi ffonio 999 i ofyn a oedd darn gwyrdd mewn taten yn wenwynig ac un lle’r oedd dyn o Borth Tywyn yn dweud ei fod angen ambiwlans oherwydd bod ganddo fodrwy na allai ei thynnu oddi ar ei fys.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog pobol i ddewis y gwasanaeth priodol ar gyfer eu gofynion gofal iechyd i arbed derbynwyr galwadau a chriwiau ambiwlans rhag cael eu clymu’n ddiangen pan fydd galwad frys go iawn yn cyrraedd.

‘Meddwl dwywaith’
Wrth i ofal iechyd brys ar draws Cymru wynebu pwysau mawr, dywedodd Richard Lee, Pennaeth Gwasanaethau Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:

“Dydyn ni ddim am atal unrhyw un rhag ffonio 999, ond hoffem iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn gwneud.

“Pan fydd pobol yn camddefnyddio’r gwasanaeth, mae’n golygu bod ein hamser gwerthfawr yn cael ei wastraffu yn lle ein bod yn delio â rhywun sydd wirioneddol angen ein help.

“Yn ystod cyfnodau brig, fel yn ystod yr haf, mae pob galwad nad sy’n hanfodol, o bosibl, yn oedi cyn ymateb i argyfwng difrifol.
“Rydym yn gofyn i’r cyhoedd gefnogi’r ymgyrch ‘Dewis Doeth’ i sicrhau bod gwasanaethau brys prysur ar gael i’r rhai mewn argyfwng sydd eu hangen. Os ydych chi’n meddwl eich bod angen sylw meddygol, ond ddim o reidrwydd ar ffurf ambiwlans, mae llu o opsiynau eraill y gallwch eu hystyried – ar y we neu gan feddyg teulu.”