Meri Huws
Bydd Comisiynydd y Gymraeg heddiw yn lansio darn cychwynnol o waith ymchwil sy’n profi fod y Gymraeg o fantais i gwmnïau bwyd wrth iddyn nhw werthu cynnyrch yng Nghymru a thu hwnt i’r ffin.

Ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd, mae disgwyl i’r Comisiynydd, Meri Huws, gyflwyno tystiolaeth gan gwmnïau fel Llaeth y Llan, Edwards o Gonwy, Blas ar Fwyd, Caws Cenarth a Paned Gymreig / Welsh Brew sy’n dweud fod y Gymraeg yn ffactor arwyddocaol o’i gwerthiant.

Prif ganlyniadau’r ymchwil yw:

  • Mae brand a hunaniaeth Gymraeg y cwmnïau hyn o fantais fasnachol iddyn nhw
  • Nid yw defnyddio’r Gymraeg yn rhwystro’r busnesau rhag ehangu eu masnach
  • Ceir teimlad bod defnyddio’r Gymraeg yn gysylltiedig â thwf a llwyddiant busnes
  • Mae sicrhau cyfathrebu â chwsmeriaid yn Gymraeg yn bwysig i ddelwedd y cwmnïau

‘Neges glir’

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws y bydd yr ymchwil yn “werthfawr” wrth drafod manteision masnachol defnyddio’r Gymraeg a chwmnïau a chyrff eraill:

“Mae’r gwaith ymchwil cychwynnol hwn yn rhoi man cychwyn i ni wrth ddatblygu’r berthynas â’r sector cynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru.

“Mae negeseuon clir yn dod allan o’r ymchwil ynglŷn â phwysigrwydd datblygu gweithluoedd dwyieithog ac ynglŷn â manteision sgiliau iaith Gymraeg staff.

“Bydd y negeseuon hyn o fudd wrth i ni barhau â’n trafodaethau â’r sector addysg ac â chyflogwyr yn gyffredinol.”