Rebecca Evans
Mae Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Amaeth Llywodraeth Cymru, wedi ymateb i gyhuddiad ei bod wedi “dangos dirmyg tuag at gefn gwlad” ar ôl gwrthod gwahoddiad i fynychu sesiwn craffu’r Pwyllgor Amgylcheddol.
Yn ystod y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ddydd Llun, dywedodd ei bod wedi trefnu cyfarfod i drafod y problemau sy’n wynebu’r diwydiant cig eidion yng Nghymru.
Ychwanegodd y bydd hi’n “gwneud popeth o fewn ei gallu” i gefnogi’r diwydiant ffermio.
Roedd Llyr Gruffydd o Blaid Cymru wedi dweud ei bod yn “annealladwy” fod y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd newydd John Griffiths, Gweinidog yr Economi Edwina Hart, a’r Dirprwy Weinidog Amaeth, Rebecca Evans wedi gwrthod gwahoddiad y pwyllgor oherwydd “ymrwymiadau eraill”.
“Mae hyn yn dangos dirmyg tuag at y pwyllgor ac yn anfon neges anffodus iawn i gymunedau cefn gwlad yng Nghymru,” meddai Llyr Gruffydd, llefarydd Adnoddau Naturiol a Bwyd Plaid Cymru, wrth y Farmers Guardian.
“Mae’r sesiwn yn rhan bwysig o waith y pwyllgor ac o’r calendr amaethyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru ddangos ei blaenoriaethau ar gyfer ffermio a’r economi wledig.
“Os ydyn nhw’n meddwl y gallen nhw wrthod y cynnig i fynychu gydag esgus pitw, maen nhw wedi camgymryd. Fe fydd rhanddeiliaid allweddol o’r diwydiant ffermio yn gweld hyn fel dim byd llai na dirmyg.”
Blaenoriaeth
Mewn cyfweliad a Golwg yn Llanelwedd, dywedodd Rebecca Evans – gafodd ei phenodi yn Ddirprwy Weinidog Amaeth Amaeth bythefnos yn ôl yn sgil diswyddiad Alun Davies:
“Does yna ddim dirmyg tuag at gefn gwlad. Rwy’n byw yng nghefn gwlad – pam fyswn i’n dangos dirmyg ato?
“I mi, y flaenoriaeth yn y Sioe yw gwrando, cysylltu gyda phobol a darganfod beth ydy’r materion sydd wir yn poeni pobol.
“Hefyd mae’n rhaid i mi gymryd y cyfle, un sy’n digwydd unwaith y flwyddyn, o gael y teulu amaethyddol mawr, os liciwch chi, mewn un lle.
“Mi roedd y Pwyllgor Amgylcheddol wedi ei drefnu cyn y Sioe Frenhinol, ac yn amlwg, mae yna newidiadau arwyddocaol wedi bod i’r portffolios ers hynny.
“Oherwydd ymrwymiadau’r Gweinidogion eraill, mae’r pwyllgor wedi ei ail-drefnu ar gyfer mis Medi ac rwy’n meddwl bod hynny’n ffordd resymol ymlaen o ystyried newid yn y portffolios a oedd yn annisgwyl.”
Cyhoeddodd ei bod am drefnu digwyddiad yn ddiweddarach yn yr haf i drafod y problemau sy’n wynebu’r sector cig eidion a’r gostyngiad mewn prisiau.