Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood
Dylai’r Alban ddangos undod gyda Chymru trwy bleidleisio Ie i annibyniaeth, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Mae disgwyl i Leanne Wood ddweud mewn araith yng Nglasgow heddiw y byddai Alban annibynnol “yn symbol o gyfiawnder cymdeithasol” i wrthsefyll “adain dde sbeitlyd” Llywodraeth y DU.

Bydd arweinydd Plaid Cymru yn traddodi ei haraith o flaen aelodau o grŵp Annibyniaeth Radical yng Nglasgow heddiw.

‘Goleudy’

Mae disgwyl i Leanne Wood fynd ymlaen i ddweud bod datganoli wedi dechrau mynd i’r afael ag anghydbwysedd gwleidyddol y Deyrnas Unedig – ond “gallwn gyfeirio at yr Alban eisoes fel enghraifft o’r ffordd wahanol y maen nhw wedi rhoi blaenoriaeth i iechyd ac addysg am ddim.”

Bydd hi hefyd yn dweud “mai’r weithred fwyaf o undod y gall pobl yn yr Alban ddangos i ni yng Nghymru yw creu cenedl a chymdeithas sy’n gwrthod gwenwyn rheol asgell dde sbeitlyd ac yn hytrach, adeiladu’r unig wlad a fydd yn dangos y ffordd i ni i gyd fel goleudy yn yr ynysoedd hyn.”