Gwrthryfelwr yn gwarchod safle'r ddamwain
Mae cyrff rhai o’r teithwyr fu farw ar awyren Malaysia Airlines yn yr Wcráin wedi dechrau eu taith yn ôl i’r Iseldiroedd wrth i’r tensiynau diplomyddol yn sgil y ddamwain barhau.
Bu farw 298 o bobl ar ol i awyren MH17 daro’r ddaear ddydd Iau diwethaf. Roedd 10 o bobl o Brydain yn eu plith.
Mae arbenigwr o’r DU ymhlith y cynrychiolwyr rhyngwladol a fydd yn dechrau’r broses o geisio adnabod y cyrff pan fyddan nhw’n cyrraedd dinas Kharkiv yn yr Wcráin, cyn cael eu cludo yn ol i Amsterdam.
Ddoe, fe gytunodd gwrthryfelwyr Rwsiaidd i ganiatáu i 282 o’r cyrff sydd wedi cael eu symud o’r safle i gael eu cludo ar drên i Kharkiv cyn eu cludo i Amsterdam.
Mae’r gwrthryfelwyr hefyd wedi trosglwyddo blychau du’r awyren i arbenigwyr a chaniatáu i ymchwilwyr rhyngwladol archwilio’r safle. Daeth y cytundeb yn dilyn trafodaethau gyda Phrif Weinidog Malaysia Najib Razak.
Mae’n dilyn dyddiau o feirniadaeth o’r modd mae Rwsia wedi gwrthod gorchymyn y gwrthryfelwyr i ganiatáu i ymchwilwyr gael mynediad i’r safle. Mae ’na ddyfalu hefyd mai’r gwrthryfelwyr oedd yn gyfrifol am danio taflegryn at yr awyren.
Neithiwr, dywedodd Rwsia ei bod yn cefnogi cynnig Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i alw am gadoediad yn yr ardal er mwyn caniatáu i ymchwiliad llawn gael ei gynnal ar safle’r ddamwain.
Ond mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor Phillip Hammond geisio dwyn perswâd ar aelodau’r Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel heddiw i gyflwyno rhagor o sancsiynau yn erbyn Rwsia mewn ymdrech i orfodi’r Arlywydd Vladimir Putin i newid ei agwedd.
Mae’n debyg y bydd unrhyw fesurau newydd yn targedu busnesau Rwsiaidd, sefydliadau neu unigolion sy’n gyfrifol am gynorthwyo’r ymladd yn yr Wcrain mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Dywedodd David Cameron wrth ASau ddoe: “Mae’n rhaid i ni roi pwysau ar ein partneriaid i ddweud na allen ni barhau i wneud busnes gyda gwlad pan mae’n ymddwyn fel hyn.”