Cacen gri fwya'r byd
Mae trigolion Y Bala yn dathlu ar ôl derbyn cadarnhad heddiw eu bod wedi torri record byd am greu’r gacen gri fwyaf mewn hanes.

Roedd hi’n mesur 1.5 metr, yn pwyso 21.7 cilo ac fe’i torrwyd yn 200 o ddarnau er mwyn codi pres tuag at elusennau.

Fe ddaeth cannoedd o bobol i weld aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth Bala a Phenllyn ac Ysgol y Berwyn yn pobi’r gacen gri enfawr i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

“Roedd yna adegau lle roeddem ar bigau’r drain wrth i’r tîm gymysgu’r cynhwysion, ei rolio i’r maint cywir a’i phobi dros siarcol poeth,” meddai cadeirydd y gymdeithas dwristiaeth, Mel Williams.

“Ond roedd dathlu mawr ar ôl iddi gael ei throi drosodd gydag arogl cacen gri yn llenwi’r lle.

“Mae Guinness World Records rŵan wedi cadarnhau mai dyma’r gacen gri fwyaf yn y byd. Roedd yn ymdrech wych ar ran y tîm, ac mae ein gwaith caled wedi cael ei gydnabod.

“Rydym yn falch iawn mai Y Bala yw cartref y record hon. Mae’r dref wedi bod yn gefnogol iawn ac rydym yn gobeithio y byddwn ni’n gallu cynnal diwrnod arall o ddigwyddiadau tebyg y flwyddyn nesaf.”