Joanne Smart
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddynes 36 oed o Gaerdydd fu farw yn dilyn damwain car ddifrifol ar yr A470 fore ddoe.

Bu farw Joanne Smart o Gaerdydd ar ol i’w char Peugeot 206 droi drosodd wrth iddi yrru ar y ffordd ddeuol i’r de rhwng Nantgarw a Ffynnon Taf.

Mewn datganiad, dywedodd ei mam Barbara Richardson a’i llys dad Glen Richardson:

“Fe fydd pawb oedd yn nabod Joanne, neu Jo fel yr oedd hi’n cael ei galw gan ei ffrindiau, yn gweld ei heisiau.

“Roedd hi’n berson hynod o hwyliog a oedd yn byw bywyd i’r eithaf.  Roedd hi hefyd yn barod i helpu unrhyw un oedd mewn trafferth.

“Roedd hi wrth ei bodd yn treulio amser gyda’i chwiorydd, Amy a Laura, a’i ffrindiau. Fel teulu, rydym wedi torri ein calonnau o’i cholli ond fe fyddwn ni’n cofio am yr adegau braf a gawsom gyda hi.”

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.