Ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi lansio’r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dewi Sant 2015.
Mae’r gwobrau yn cael eu rhoi i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn eu sectorau ac yn eu cymunedau, ar ôl iddyn nhw gael eu henwebu gan aelodau o’r cyhoedd.
Y flwyddyn ddiwethaf oedd y tro cyntaf i’r gwobrau gael eu cynnal ac roedd rhai o’r enillwyr ar y maes gyda Carwyn Jones wrth iddo lansio’r cyfnod enwebu nesaf.
“Roedd seremoni wobrwyo’r llynedd yn brofiad cwbl arbennig ac ysbrydoledig,” meddai Carwyn Jones.
“Roedd y dalent, y brwdfrydedd a’r haelioni a welais ym mhob rhan o Gymru yn wefreiddiol.
“Wrth weld y gydnabyddiaeth a roddwyd i enillwyr y llynedd, rwy’n gobeithio y bydd pobol yn penderfynu enwebu rhywun y maen nhw’n adnabod, sy’n haeddu’r anrhydedd mawr hwn.”
Enillwyr
Fe fydd gwobrau yn cael eu rhoi mewn naw categori, sef:
- Dinasyddiaeth
- Diwylliant
- Menter
- Arloesedd a thechnoleg
- Chwaraeon
- Gwobr person ifanc
- Gwobr ryngwladol
- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog, a gyflwynir i enillydd o ddewis y Prif Weinidog ei hunan.
Ymysg yr enillwyr yn y seremoni yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd y llynedd roedd y gyn bencampwraig Paralympaidd, Tanni Grey-Thompson, y canwr Bryn Terfel, y swyddog patrol ffordd, Karin Williams, a phobol tref Machynlleth.
Fe fydd enillwyr 2015 yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni fis Mawrth.