Ban Ki-moon
Mae pennaeth y Cenhedloedd Unedig ac Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau yn teithio i Cairo mewn ymdrech i ddod a diwedd i’r ymladd ffyrnig rhwng Israel a Hamas yn Gaza.

Mae o leiaf 500 o Balestiniaid ac 20 o Israeliaid wedi cael eu lladd yn ystod y pythefnos diwethaf a degau o filoedd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi.

Daw ymdrechion diweddaraf Ban Ki-moon a John Kerry  i gyflwyno cadoediad wedi un o’r ymosodiadau mwyaf gwaedlyd ers i’r ymladd ddechrau ar 8 Gorffennaf.

Yn ôl swyddog iechyd ym Mhalestina cafodd pedwar o bobl eu lladd a 60 eu hanafu ar ôl i ergydion Israel daro ysbyty yn Llain Gaza.

Roedd 30 o staff meddygol ymhlith y rhai gafodd eu hanafu.

Dywed lluoedd Israel eu bod nhw’n ymchwilio i’r adroddiadau.

Yn Efrog Newydd mae Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig wedi mynegi “pryder difrifol” am nifer y bobl gyffredin sydd wedi cael eu lladd ac wedi galw am ddod a’r ymladd i ben ar unwaith.