Rhodri Talfan Davies
Mae ffigyrau gwrando wythnosol Radio Cymru wedi codi 13% yn y flwyddyn ddiwethaf yn ôl Adroddiad Blynyddol BBC Cymru sydd wedi ei gyhoeddi heddiw.

Yn ôl yr adroddiad, cododd nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru’n wythnosol o 128,000 i 144,000.

Roedd nifer y bobol sy’n ymweld â gwefannau Cymraeg y BBC yn wythnosol hefyd wedi codi o 35,000 i 40,000.

Ond, roedd nifer y rhai sy’n gwylio o leia’ chwarter awr ddi-dor o raglenni teledu Cymraeg, sydd wedi cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru i S4C, wedi gostwng o 174,000 i 155,000.

Gwasanaethau ar-lein

Roedd ffigyrau eraill a gafodd eu cyhoeddi’n dangos bod cynulleidfa BBC Cymru ar BBC One Wales a BBC Two Wales ar ei uchaf ers degawd a bod cynnydd o 30% mewn defnydd o wasanaethau ar-lein.

Mae cyrhaeddiad radio digidol DAB ar gyfer Radio Wales a Radio Cymru hefyd wedi cynyddu dros 50% yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – o 40% i 65% – ac mae cyllid yn ei le i gynyddu’r cyrhaeddiad i 86% o aelwydydd yng Nghymru erbyn 2016.

‘Adlewyrchu’r Gymru gyfoes’

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, mai cyflymder y newid yng Nghymru yw sialens greadigol fwya’r gorfforaeth.

Meddai: “Ein gwaith ni yw adlewyrchu ac archwilio’r Gymru gyfoes fel y mae heddiw – nid fel yr oedd pethau, neu fel y mae pobl yn dymuno iddi fod. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwy’n credu bod BBC Cymru wedi cymryd camau breision o ran adlewyrchu’r gwirioneddau newydd.

“Mae’r record gyson yma o lwyddiant – yn yr hinsawdd ariannol anoddaf – yn dweud popeth sydd angen ei ddweud am dalentau tîm BBC Cymru a’n partneriaid gwych yn y sector annibynnol.

‘‘Os byddwn ni’n onest ac yn benderfynol, fe wnawn ni wireddu’r sialensiau yma beth bynnag a ddaw. Wrth reswm, bydd angen dychymyg a rhywfaint o ddyfeisgarwch, ond does dim prinder o’r rheiny,’’ meddai yn yr adroddiad.

Mae prif flaenoriaethau BBC Cymru dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys gwella’r gynrychiolaeth o Gymru ar sianeli teledu’r BBC ar draws y DU, darparu arlwy gynhwysfawr o refferendwm yr Alban a’i effaith bosib ar Gymru a’r DU, a symud yn gyflymach ar-lein.