Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai Evan Davis fydd yn olynu Jeremy Paxman fel cyflwynydd Newsnight.
Fe wnaeth Jeremy Paxman roi’r gorau iddi fel prif gyflwynydd y gyfres ym mis Mehefin ar ôl 25 mlynedd.
Dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol y BBC, Tony Hall, y bydd Evan Davis, sydd fwyaf adnabyddus am gyflwyno Dragons’ Den a rhaglen Today ar Radio 4, yn gwneud gwaith “rhagorol”.
Daw’r newyddion ar ôl cyfnod cythryblus i Newsnight pan gafodd ymchwiliad i droseddau rhyw Jimmy Savile eu gollwng ac arweiniodd at stori ar wahân am yr Arglwydd McAlpine yn cael ei gyhuddo ar gam o gam-drin plant.
Roedd cyflwynwyr benywaidd y rhaglen – Laura Kuenssberg, Kirsty Wark ac Emily Maitlis – i gyd wedi cael eu henwi yn y ras i olynu Jeremy Paxman hefyd.
Meddai Evan Davis: “Er ei fod o’n frawychus, mi fydd cyflwyno Newsnight yn antur ac yn her, ac rwy’n gobeithio y bydd y gwylwyr yn hapus gyda’r canlyniad.”