Y cyfranwyr at y noson
Mae mwy na £5,000 eisoes wedi eu codi at ymladd canser y pancreas, er cof am y bardd Nigel Jenkins.

Daeth y cyhoeddiad adeg lansio llyfr i gofio amdano mewn noson i ddathlu ei fywyd yng Nghanolfan Dylan Thomas Abertawe.

Mae ei gyd-fardd a’i gyfaill nofio, Stevie Davies, yn bwriadu nofio milltiroedd hyd arfordir Bro Gŵyr yn ddiweddarach yr haf yma er mwyn codi arian, ond fe ddywedodd fod £5,000 wedi eu cyfrannu eisoes at Gronfa Ymchwil Canser y Pancreas.

“Do’n i ddim yn gallu meddwl am well ffordd i gofio Nigel nag i godi arian at ymchwil i’r clefyd dychrynllyd a aeth ag ef,” meddai wrth gynulleidfa o tua 200 yn y Ganolfan.

Fe fu Nigel Jenkins farw ym mis Ionawr eleni o ganser y pancreas – clefyd sydd yr un mor farwol ag yr oedd 40 mlynedd yn ôl.

Y gyfrol

Roedd cynnwys y noson wedi ei threfnu gan y bardd, Menna Elfyn, un o gyfeillion a chydweithwyr agosa’ Nigel Jenkins gyda ffrindiau, gan gynnwys aelodau o’i deulu, yn cymryd rhan.

Mae’r gyfrol, Encounters with Nigel Jenkins, yn llawn atgofion am y bardd, cerddi coffa ac ysgrifau’n dadansoddi ei waith.

Mae’n cael ei chyhoeddi gan Ymddiriedolaeth H’mm sy’n codi arian i hyrwyddo barddoniaeth yn y gymuned ac a oedd yn un o hoff sefydliadau Nigel Jenkins.

Yn ei ragair i’r gyfrol, mae sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth, Ali Anwar, yn dweud, “Roedd yn wir ffrind, yn rhyngwladolwr, yn Dderwydd, yn argraffiad cyfyngedig, yn un heb ei ail.”