Mae’r diwrnod wedi cyrraedd o’r diwedd, gyda Chwpan y Byd ym Mrasil ar fin cychwyn a’r teledu’n barod i gael ei feddiannu am fis cyfan o wylio’r bêl gron.
Gydag ond ychydig oriau i fynd nes cic gyntaf y gêm agoriadol rhwng Brasil a Croatia, mae tri gŵr doeth golwg360 wedi mynd ati i ddarogan beth fydd yn digwydd.
Pwy fydd prif sgoriwr Owain Schiavone tybed? Beth mae Barry Thomas yn credu fydd tynged Lloegr? Pa chwaraewr mae Iolo Cheung yn disgwyl fydd yn disgleirio? A phwy fydd yn codi’r tlws enwog ar 13 Gorffennaf?
Croeso i chi adael eich sylwadau hefyd os ydych chi’n anghytuno â’r tri, a rhoi’ch barn chi ar bwy ydych chi’n disgwyl fydd yn serennu ym Mrasil.
Gallwch hefyd wrando ar bod pêl-droed diweddaraf golwg360 yn edrych ymlaen at gemau agoriadol y twrnament os ydych chi am gael rhagor o flas o’r cyffro.
Bydd y criw nôl ar ddiwedd y gystadleuaeth i weld pa mor agos neu frawychus o wael y buon nhw’n darogan, ond am y tro, mwynhewch y Copa do Mundo!
Enillwyr Cwpan y Byd
Owain Schiavone: Yr Ariannin. Mae ganddyn nhw ddau ymosodwr gorau’r byd, yn fy marn i, yn Messi ac Aguero a chwaraewyr da iawn yng nghanol y cae ac yr amddiffyn hefyd. Mae Messi wedi cael tymor siomedig gydag anafiadau, ond efallai y bydd hynny o fantais i’r Ariannin gan ei fod wedi chwarae llai o bêl-droed nag arfer eleni, ac felly’n debygol o fod yn fwy ffres.
Barry Thomas: Brasil. Yn Thiago Silva mae ganddyn nhw amddiffynnwr gorau’r byd, a dw i’n cymryd bod digon y pen arall i sgorio’r gols – a chofiwch fod dyfarnwyr Cwpan y Byd wastad yn ffafrio’r wlad sy’n cynnal y gemau.
Iolo Cheung: Brasil i mi dwi’n meddwl – mae gan Yr Ariannin ymosodwyr gwell ond roedd Brasil gryf yn y Confederations Cup llynedd ac yn edrych fel bod ganddyn nhw’r cydbwysedd yn eu tîm. Jyst gobeithio nad ydi’r pwysau o chwarae adra’n mynd yn ormod.
Prif sgoriwr
OS: Mae 5 neu 6 gôl fel arfer yn ddigon i ennill y teitl, felly gallai hat-tric yn un o’r gemau grwpiau roi cyfle i enw llai amlwg. Os ydy o’n ddewis cyntaf, fyswn i’n synnu dim gweld Wilfried Bony yn sgorio sawl gôl yn y grwpiau. Ond gan mod i’n ffansio Ffrainc i synnu pawb efo rhediad da, dwi’n mynd i ddeud Karim Benzema.
BT: Wayne Rooney … na, jôc – fydd Wazza wedi gorfod mynd adra efo heat stroke ar ôl y gêm gynta’ … fedra i weld Lionel Messi yn sgorio rhyw bump yn erbyn Iran, a dyna chdi’r Esgid Euraidd fwy neu lai.
IC: Dwi’n disgwyl i’r Ariannin fynd yn bell, a hefo grŵp gymharol hawdd mi fydd Sergio Aguero yn cael digon o gyfle i lenwi’i sgidiau, er y bydd gan Messi rywbeth i’w ddeud am hynny dwi’n siŵr. Mi fydd o’n ddiddorol gweld sut wnaiff Diego Costa i Sbaen hefyd.
Chwaraewr i wylio
OS: Gyda nifer o’r enwau amlycaf wedi, neu yn, dioddef o anaf fe allai rhywun annisgwyl serennu. Mae’n werth cadw golwg ar Paul Pogba a dwi’n gobeithio gweld Andrea Pirlo yn rheoli gemau unwaith eto, ond twrnament Messi fydd hon dwi’n credu.
BT: Mae o’n pwdu, mae o’n cyfareddu, mae o’n tynnu ei grys ac fel rhyw darw yn brefu… ac eto mae o’n rhyfeddol o ferchetaidd…nid oes ond un Cristiano Ronaldo!
IC: Mae chwaraewr canol cae disglair Schalke a’r Almaen, Julian Draxler, yn un i wylio, yn enwedig gan fod yr hyfforddwr Joachim Low yn un sy’n rhoi cyfle i sêr ifanc.
Ceffyl tywyll y twrnament
OS: Byddai’n rhyfedd sôn am Ffrainc fel ceffylau tywyll, ond roedd Cwpan y Byd 2010 yn drychinebus iddyn nhw, ac mae hwn yn dîm ifanc newydd. Mae potensial i Uruguay synnu pawb trwy guro Sbaen yn y chwarteri, a gyda Yaya Toure yn y tîm gall unrhyw beth ddigwydd gyda’r Traeth Ifori.
BT: Hoffwn i weld Didier Drogba yn gwneud yn dda efo’r Traeth Ifori – ddylwn nhw ddod gyntaf mewn grŵp sy’n cynnwys y Groegiaid, y Siapaniaid a’r Colombiaid.
IC: Mae cymaint o bobl wedi awgrymu Gwlad Belg fel ceffyl tywyll fel nad ydi’r tag yn berthnasol iddyn nhw bellach – felly dwi’n meddwl y gwnaiff Chile syfrdanu ambell dîm dros y mis nesaf.
Siom y twrnament
OS: I’r Saeson, Lloegr – mae peryg iddyn nhw orffen ar waelod eu grŵp. Mae ‘na lawer o sôn am Wlad Belg a dwi’n disgwyl iddyn nhw ennill eu grŵp, ond colli yn rownd yr 16 olaf.
BT: Nad ydy Roy Keen yn doethinebu yn y pwynt sylwebu … roedd ei daclo’n frwnt, ond mae ei geg yn cymryd y busged!
IC: Gan fod Chile’n rhannu’r un grŵp a Sbaen a’r Iseldiroedd – ac o ystyried perfformiad digon cyffredin gan yr Oranje yn erbyn Cymru’n ddiweddar – fyswn i ddim yn synnu o weld tîm Van Gaal adra o Frasil yn gynnar.
Pa mor bell aiff Lloegr?
OS: Byddan nhw’n ffodus i gael mwy na dau bwynt yn y grŵp.
BT: Gwywo yn y gwres fydd eu hanes nhw ac allan yn y grŵp … gêm gyfartal efo’r Eidal, colli i Uruguay dan amodau dadleuol yn ymwneud efo Suarez y Dannadd, cyn rhoi cweir ddibwys i’r Costa Ricaniaid. (Bydd yr Eidal ag Uruguay yn sicrhau buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal, ac felly’n camu ymlaen)
IC: Disgwyliadau isel, tîm dibrofiad – felly mae’n siŵr y gwnawn nhw’n synnu ni i gyd a gwasgu drwy’r grŵp a’r 16 olaf cyn colli yn y chwarteri.
Uchafbwynt personol
OS: Yr Eidal yn herio Lloegr yn rownd gyntaf gemau Grŵp D, gan obeithio y bydd cynlluniau Lloegr i ffrwyno Pirlo yn methu’n llwyr.
BT: Gobeithio bydd y ffeinal yn un da – roedd Sbaen yn erbyn yr Iseldiroedd yn sdincar bedair blynedd yn ôl. I ddweud y gwir, os fydd Sbaen yn chwarae rhyw gêm cadw’r-bêl-mynd-i-nunlla-heb-sdreicar-curo-bob-gêm-1-0 fydda i’n hapus gweld nhw’n dweud ‘hasta la vista’ cynnar!
IC: Gobeithio gweld Uruguay’n mynd allan ar ôl i rywun lawio ergyd Luis Suarez oddi ar y lein, a’r reff rywsut yn methu’r digwyddiad – rhag ofn eich bod chi heb ddyfalu eto, ro’n i’n cefnogi Ghana yn 2010. Ond hefyd isho gweld yr Almaen yn chwarae pêl-droed secsi.