Warren Gatland
Bydd Adam Jones yn gwneud ei 100fed ymddangosiad rhyngwladol yn y gêm ar ddydd Sadwrn yn erbyn De Affrica.

Mae chwaraewr Y Gweilch yn ennill ei 95ain gap dros Gymru wedi iddo ennill 5 cap dros y Llewod Prydeinig a Gwyddelig.

Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi dau chwaraewr heb eu capio yn ei garfan gyda’r mewnwr o’r Scarlets Gareth Davies a’r Gweilch Matthew Morgan wedi’u henwi fel eilyddion ar ôl creu argraff yn y fuddugoliaeth dros yr EP Kings nos Fawrth diwethaf.

Mae Mike Phillips a Dan Biggar yn parhau a’r bartneriaeth fel mewnwr a maswr fel y mae Jamie Roberts a Jonathan Davies yng nghanol cae.

Y tu fas iddyn nhw mae’r Llewod George North ac Alex Cuthbert gyda Liam Williams o’r Scarlets yn dechrau fel cefnwr.

Yn ymuno ag Adam Jones yn y rheng flaen mae Gethin Jenkins, a fydd yn ennill ei 106ed gap dros Gymru a’r bachwr Ken Owens.

Alun Wyn Jones, a fydd yn gapten ar ddydd Sadwrn, a Luke Charteris sy’n dechrau yn yr ail reng gyda Aaron Shingler yn ymuno a Dan Lydiate a Taulupe Faletau yn y rheng-ol.

Ar fainc yr eilyddion, mae Matthew Rees wedi cloriannu dychweliad rhyfeddol i rygbi wrth iddo gael ei ddewis ar y fainc ac yn ymuno gydag ef mae Paul James, Samson Lee, Ian Evans a Josh Turnbull fel y blaenwyr gyda James Hook yn ymuno a Davies a Morgan fel yr olwyr.

“Fe ddechreuon ni’r daith yn dda nos Fawrth yn erbyn EP Kings ond mae’n bwysig ein bod yn mynd allan ar ddydd Sadwrn a pherfformio i’r lefel rydym yn gwybod yn llawn,” meddai Gatland.

“Mae cyfres brawf yn Ne Affrica bob amser yn her, ond rydym yn gyffrous ac yn edrych ymlaen at fynd allan yno ddydd Sadwrn.”

Yn herio Cymru ar ddydd Sadwrn bydd y chwaraewr ail-reng a’r capten Victor Matfield, sydd yn ennill ei 111eg gap. Ymhlith y chwaraewyr sydd yn ymuno a Matfield yn nhîm De Affrica yw Bryan Habana, Morne Steyn a’r mewnwr Fourie fe Preez.

Sgwad Cymru i wynebu De Affrica:
Liam Williams (Scarlets), Alex Cuthbert (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Racing Metro), George North (Northampton), Dan Biggar (Gweilch), Mike Phillips (Racing Metro), Gethin Jenkins (Gleision), Ken Owens (Scarlets), Adam Jones (Gweilch), Luke Charteris (Perpignan), Alun Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Racing Metro), Aaron Shingler (Scarlets), Taulupe Faletau (Dreigiau)

Eilyddion: Matthew Rees (Gleision), Paul James (Caerfaddon), Samson Lee (Scarlets), Ian Evans (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Gareth Davies (Scarlets), James Hook (Perpignan), Matthew Morgan (Gweilch).