Aled Siôn Davies
Taflwr y siot a’r ddisgen, Aled Siôn Davies fydd yn arwain Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Bu digwyddiad arbennig yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd y prynhawn yma, lle cafodd enw’r capten ei gyhoeddi.
Roedd yr athletwr 22 oed ymhlith llu o athletwyr – gan gynnwys Dai Green a Helen Jenkins – oedd yn bresennol yn y digwyddiad.
Mae Davies eisoes wedi casglu nifer o fedalau a recordiau dros y blynyddoedd diwethaf.
Yng Ngemau Paralympaidd 2012 enillodd y fedal efydd yn y siot a chipio’r fedal aur yn y ddisgen, gan dorri record Ewropeaidd y ddisgen yn y broses.
Ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd yn Ffrainc yn 2013 aeth ymlaen i ennill dwy fedal aur yn y ddisgen a’r siot, llwyddiant welodd Davies yn cael ei enwebu ar restr fer Personoliaeth Chwaraeon Cymru’r Flwyddyn y llynedd.
Digwyddiad ffarwelio
Roedd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn y digwyddiad i annerch y cystadleuwyr wrth iddyn nhw baratoi i gystadlu ymhen saith wythnos.
Chef de Mission tîm Cymru yw Brian Davies, sydd yn Rheolwr Perfformiad Elit Chwaraeon Cymru.
Dywedodd mewn datganiad yn gynharach heddiw: “Mae’n anrhydedd fawr i fi gael fy mhenodi’n Chef de Mission ar gyfer y tîm.
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at yr her a’i fod yn “hyderus y gallwn ni greu Gemau gwych i Gymru”.
“Hoffwn achub ar y cyfle i ddymuno’n dda i’r holl athletwyr.”
Cyn y digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod yn “dymuno pob lwc enfawr i’r tîm cyfan”.