Llyn Padarn
Fe fydd ymchwiliad newydd yn cael ei gynnal i lygredd mewn llyn sy’n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng Ngwynedd.

Mae pysgotwyr a’u cyfreithwyr, sydd wedi bod yn tynnu sylw at lygredd yn Llyn Padarn ers 1992, yn hawlio buddugoliaeth.

Ond dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod wedi gweithredu i wella’r amgylchiadau yn y llyn ers 2007 ac i warchod y pysgod prin.

Yn ôl y mudiad Fish Legal, sy’n gweithredu ar ran Clwb Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, “mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn bod yr ymchwiliad wedi bod yn anghyfreithlon ac y byddan nhw’n cynnal un newydd”.

A dywed y prif gyfreithiwr, William Rundle, “mae wedi bod yn dalcen caled i gael Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfaddef i fethiannau yn ystod eu hymchwiliad i lygru Llyn Padarn [yn Llanberis] gan Dŵr Cymru.”

Yn ôl William Rundle, “un o’r rhesymau dros fethiannau Cyfoeth Naturiol Cymru yw nad oedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gweithredu cyfraith Ewropeaidd o fewn rheoliadau cenedlaethol …”

Ers 1992 mae Ysgrifennydd Cymdeithas Bysgota Seiont, Llyfni a Gwyrfai wedi bod yn cyhuddo Dŵr Cymru  o lygru Llyn Padarn, sy’n gartref i’r torgoch – pysgodyn prin ac unigryw o oes yr iâ.

Dro ar ôl tro mae Huw Hughes wedi rhybuddio bod carthion heb eu trin yn cael eu gollwng i’r llyn a bod cemegolion fel ffosffad ac ammonia, sy’n cael ei ddefnyddio i buro’r carthion, yn gwneud i algae gwyrddlas gwenwynig ffynnu o fewn Llyn Padarn.

Ym mis Mai 2009 arweiniodd ffyniant algae gwyrddlas gwenwynig Llyn Padarn at rybudd gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i beidio ymdrochi yn y llyn na bwyta’r pysgod ynddo dros yr haf.

Ond  roedd  Cyfoeth Naturiol Cymru  yn dal yn gyndyn o gyhuddo Dŵr Cymru o ddrwgweithredu.

Ond yn dilyn ymchwiliad ganddynt yn ddiweddarach fe ddaeth yn amlwg mai Dŵr Cymru oedd ar fai am achosi niwed amgylcheddol i’r llyn.

Er hynny, dyw Cyfoeth Naturiol Cymru  ddim wedi gorfodi Dŵr Cymru hyd yn hyn i roi stop ar y llygru.

Ymateb Dŵr Cymru

“Byddwn ni’n parhau i gydweithio’n agos â phawb o dan sylw er mwyn amddiffyn ecoleg Llyn Padarn,” meddai llefarydd ar ran Dŵr Cymru.

“Mae ein gweithfeydd trin dŵr yn Llanberis bob amser wedi cydymffurfio â’r safonau a bennwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru, ac rydyn ni’n parhau  i yrru gwelliannau yn ansawdd dŵr Llyn Padarn.

“Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod y llyn yn bodloni’r safonau angenrheidiol o ran ansawdd dŵr i ennill statws dyfroedd ymdrochi Llywodraeth Cymru.”

Fe ofynnodd Golwg i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Stori: Siân Williams

Gellir darllen rhagor am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.