Michael Wheatley
Mae lleidr arfog oedd wedi methu â dychwelyd i’r carchar yn Swydd Gaint ar ôl cael ei ryddhau ddydd Sadwrn wedi cael ei ddal.
Dyma’r trydydd tro i’r “Skull Cracker”, Michael Wheatley ffoi.
Cafodd ei ddal yn dilyn adroddiadau ei fod wedi lladrata o gymdeithas adeiladu yn Swydd Surrey yn gynharach heddiw.
Mae e bellach wedi’i gadw yn y ddalfa.
Cafodd Wheatley a dyn arall 53 oed eu harestio ger Tower Hamlets yn nwyrain Llundain ar amheuaeth o gynnal lladrad arfog y bore ma.
Mae’r digwyddiad diweddaraf yn dilyn yr un patrwm â’r ddau achlysur arall y llwyddodd i ffoi.
Cafodd Wheatley ei garcharu am naw mlynedd yn 1980 am ladrata o swyddfa’r post ond fe lwyddodd i ffoi yn 1988 ar ôl cael mynd i’r ysbyty.
Cyflawnodd naw ladrad arfog cyn cael ei ddychwelyd i’r ddalfa ac fe gafodd ei garcharu eto yn 1989.
Dair blynedd yn ddiweddarach, cafodd ei ryddhau i fynd i’r optegydd ac fe wnaeth e ffoi unwaith eto, a’i garcharu am saith mlynedd yn 1993.
Cafodd ei ryddhau ar barôl yn 2001, ac fe ddechreuodd ladrata unwaith eto.
Yn y llys ar un achlysur, nododd Wheatley mai “lleidr arfog” oedd ei waith bob dydd.
Cafodd 13 o ddedfrydau oes yn 2002 ac roedd rhaid iddo dreulio o leiaf wyth mlynedd dan glo.