Gwefan ymgyrch Welsh Wish
Richard Nosworthy o WWF Cymru sy’n sôn am ymgyrch eu hymgyrch newydd i ddefnyddio’r byd ar-lein i annog arbed ynni …

Rwy’n siŵr eich bod wedi clywed am Awr Ddaear WWF erbyn hyn, sy’n digwydd eleni am 8:30yh ar nos Sadwrn, 29 Mawrth.

Dathliad byd-eang o’n planed wych ydy hi – a bob blwyddyn mae miliynau o bobl ar draws y byd yn diffodd eu goleuadau er mwyn dangos eu cefnogaeth am ddyfodol disglair.

Yng Nghymru, megis mewn gwledydd eraill, mae adeiladau enwog yn mynd yn dywyll – o Gastell Caernarfon i bont harbwr Sydney.

Yn 2013, gwnaeth mwy na 200 o ysgolion yng Nghymru, hanner cynghorau Cymru a 18 Aelod Cynulliad o bob plaid gefnogi Awr Ddaear.

Ond eleni mae ymgyrch arbennig – #welshwish – gan fod cyfle unigryw i Gymru arwain fel gwlad gynaliadwy yn 2014.

Defnyddio adnoddau dwy blaned

Mae’n anhygoel meddwl y byddai angen mwy na dwy blaned arnom, pe bai pawb yn y byd yn byw fel yr ydyn ni yng Nghymru.

Rydyn ni’n defnyddio adnoddau’r byd yn rhy gyflym. Os ydyn ni am sicrhau dyfodol da i bobl a natur mae’n rhaid i ni newid y ffordd rydyn ni’n byw.

Mae’n ffodus felly bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfraith newydd eleni, a all helpu gyda hyn.

Os bydd Bil Cenedlaethau’r Dyfodol yn llwyddiannus, gallai Cymru arwain y byd fel gwlad gynaliadwy – ‘Cenedl Un Blaned’ – sy’n defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd.

Mae’n bwysig felly, fel rhan o Awr Ddaear eleni, ein bod ni’n dangos ein cefnogaeth am Gymru gynaliadwy.

#welshwish

Yn WWF Cymru, penderfynon ni sefydlu gwefan arbennig – www.wwf.org.uk/welshwish – er mwyn ei gwneud hi’n hawdd i chi fynegi eich cefnogaeth.

Gallwch fynd i wefan Welsh Wish, dewiswch un o’r 3 dymuniad (ynglŷn â choedwigoedd, moroedd neu’r newid yn yr hinsawdd) a rhannwch y dymuniad gyda’ch ffrindiau ar Facebook neu Twitter.

Trwy wneud hynny byddwn ni’n anfon neges glir i weddill Cymru, a’r byd, ein bod ni eisiau dyfodol disglair i’n plant a’n hwyrion.

Er mai cofrestru a diffodd goleuadau ar y noson yw prif weithredoedd Awr Ddaear, mae gweithredoedd eraill ar lein wedi tyfu fel elfen bwysig o’r ymgyrch.

Mae blogiau a’r rhwydweithiau cymdeithasol yn ffordd i gysylltu cefnogwyr Awr Ddaear yng Nghymru yn rhyngwladol – i rannu eu lluniau a fideos ar y noson, a’u gobeithion am ddyfodol gwell i’n planed.


Ymgyrch Awr Ddaear y llynedd (llun: Nick Treharne a WWF Cymru)
Yng Nghymru byddwn ni’n tracio Awr Ddaear ar Storify ac ar wefan WWF-UK mae map rhyngweithiol sy’n dangos yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Mae’n deimlad anhygoel i weld yr hyn mae pobl yng Nghymru yn ei wneud ar lwyfan y byd a’r llynedd roedd yr hashnod #earthhour yn trendio’n rhyngwladol, felly eto eleni mae cyfle i ni yng Nghymru ymuno â mudiad byd-eang.

Yn ogystal ag ysbrydoli ein cefnogwyr traddodiadol, rydyn ni eisiau estyn allan i bobl newydd.

Felly fel ffordd i gysylltu â phobl ar draws Cymru a dangos cefnogaeth am Gymru gynaliadwy mewn ffordd weledol, roedd ymgyrch digidol fel #welshwish yn ddewis amlwg.

Hinsawdd ar yr agenda

Mae’n hollbwysig bod pobl sy’n malio am ein planed yn dangos hynny ac yn atgoffa pobl mewn grym bod cyfrifoldeb i edrych ar ôl ein planed er lles pobl a natur. Mae Awr Ddaear a #welshwish yn helpu i gadw materion megis y newid yn yr hinsawdd ar yr agenda.

Ond mae’n fwy na hynny. Yn y pen draw, gobeithiwn y bydd #welshwish yn dod â mwy o bobl i mewn i’r gymuned Awr Ddaear a’r Sgwrs Genedlaethol am Gymru gynaliadwy. Rydyn ni eisiau i bobl fynd ‘tu hwnt i’r awr’ trwy helpu’r amgylchedd.

Yn ymarferol mae hyn yn golygu ymuno â’r gymuned Awr Ddaear ac ymgyrchu trwy’r flwyddyn ar bynciau megis Parc Cenedlaethol Virunga, cyfrannu at Sgwrs Genedlaethol ‘Y Gymru a Garem’, a byw bywyd mwy cynaliadwy trwy ddefnyddio ein cyfrifiannell ôl-troed.

2014 yw cyfle Cymru i arwain – helpwch ni i wireddu hynny!