George Osborne
Mae’r Canghellor George Osborne wedi dweud fod oedi cyn mynd i’r afael â gwasgfa draffig yr M4 yn niweidio economi Cymru.
Tra’n siarad ar BBC Radio Wales bore ma dywedodd fod gan Lywodraeth Cymru y pwerau eisoes i fenthyg arian er mwyn gwella’r M4, ac y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati’n syth yn hytrach na disgwyl am y pwerau benthyg newydd yn sgil adroddiad Silk.
“Pam dylid disgwyl cyn gwneud gwelliant pwysig a fyddai’n cefnogi swyddi yn yr ardal?” gofynnodd.
Yn sgil y ffrae rhwng llywodraethau Cymru a Phrydain ynghylch ariannu’r broses o drydaneiddio rheilffyrdd yng Nghymru, cadarnhaodd George Osborne ei farn mai Llywodraeth San Steffan sy’n gyfrifol am ariannu’r trydaneiddio rhwng Llundain ac Abertawe ond mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am reilffyrdd y Cymoedd.
Yr wythnos ddiwethaf cyhuddodd Carwyn Jones Lywodraeth Prydain o wneud tro pedol ar y mater.