Mae Senedd yr Wcráin wedi derbyn ymddiswyddiad y gweinidog amddiffyn ar ôl i filoedd o filwyr dynnu nôl o benrhyn y Crimea, sydd bellach yn cael ei reoli gan Rwsia.

Wrth ymateb i feirniadaeth ei fod wedi methu a rhoi cyfarwyddiadau clir i’r lluoedd,  dywedodd Igor Tenyukh wrth y Senedd ei fod yn ymddiswyddo.

Mae’r awdurdodau yn yr Wcrain wedi cael eu beirniadu am eu hymateb araf ar adegau i ymyrraeth Rwsia yn y Crimea. Daeth y Crimea o dan reolaeth Rwsia ar ôl i refferendwm gael ei gynnal yno yn gynharach y mis hwn.

Dywedodd Igor Tenyukh ei fod wedi cael cais gan oddeutu 6,500 o filwyr a’u teuluoedd i adael y Crimea – sy’n golygu bod dwy ran o dair o’r 18,000 o filwyr yno am aros yn y rhanbarth o dan reolaeth Rwsia.

Mae llywodraeth yr Wcrain wedi mynegi pryder am bresenoldeb cynyddol milwyr o Rwsia ar ffin ddwyreiniol y wlad.

Mae Rwsia yn galw am newidiadau cyfansoddiadol yn yr Wcrain a fyddai’n rhoi mwy o annibyniaeth i ranbarthau’r wlad. Mae Rwsia’n awyddus i gadw ei dylanwad ar ranbarthau dwyreiniol yr Wcrain ac atal y wlad rhag ymuno a Nato.

Yn y cyfamser mae trafodaethau’n parhau rhwng gwledydd y G7 yn yr Hag i roi pwysau cynyddol ar Moscow.