Jill Evans ASE
Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd wedi dweud bod “llawer o gwestiynau i’w hateb” ynghylch bwriad cwmni ynni i dynnu nwy o aber afon Llwchwr ger Llanelli.
Mae Jill Evans yn siarad mewn cyfarfod heno yng Ngorseinon i drafod bwriad Cluff Natural Resources i dynnu nwy allan o gronfeydd glo dan wely’r aber. Mae Adran Ynni San Steffan wedi rhoi trwydded i’r cwmni gynnal astudiaethau yn yr ardal rhwng arfordir Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr a dywed Jill Evans fod y cynllun yn codi pryderon.
“Mae’r gymuned leol yn poeni’n fawr am y bwriad,” meddai.
“Mae’n ardal lle bu llawer o dyllu am lo yn y gorffennol ac mae’r aber o ddiddordeb amgylcheddol. Mae angen cynnal asesiad risg amgylcheddol cyn mynd ymlaen â’r cynllun yma.”
Swyddi
Mae Cluff Natural Resources wedi cael trwydded i gynnal astudiaethau dros ardal sy’n 4,207 o hectarau o faint a bydd gan awdurdodau lleol Caerfyrddin ac Abertawe yr hawl i roi caniatâd cynllunio ai peidio. Dywed y cwmni y bydd hi’n bosib tyllu o blatfform sydd wedi ei osod ar y tir yn hytrach nag yn y môr.
Mae gan y cwmni drwydded i gynnal astudiaethau yn aber Dyfrdwy hefyd.
Mae’r cwmni’n dadlau fod y dull newydd hwn o gael gafael ar ynni yn ddiogel ac yn lân ac y dylai fod yn fwy effeithlon na thyllu am nwy naturiol neu am nwy methan o lo. Mae hefyd potensial y bydd yn creu swyddi yn lleol, ond dywed Jill Evans fod angen rhoi ystyriaeth hefyd i ffyrdd eraill o greu ynni.
“Wrth gwrs bod angen swyddi, ond mae angen ystyried ffynonellau ynni sy’n elwa’r cymunedau lleol. Mae yna opsiynau amgenach a hoffen i weld yr un buddsoddiad yn cael ei wneud mewn ynni sy’n adnewyddadwy a dibynadwy.”