Ban Ki-moon
Fe fydd David Cameron yn trafod yr argyfwng yn yr Wcrain gydag Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon heddiw, yn dilyn y penderfyniad i atal Rwsia o grŵp yr G8.
Fe fydd y Prif Weinidog yn parhau i roi pwysau rhyngwladol ar Moscow wrth iddo gynnal trafodaethau gyda Ban Ki-moon.
Mae’r trafodaethau’n cael eu cynnal yn Yr Hag lle mae arweinwyr byd yn ystyried sancsiynau pellach yn erbyn Rwsia os nad ydyn nhw’n fodlon lleddfu’r tensiynau yn yr Wcrain.