Cyngor Sir Ddinbych
Fe fydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn cwrdd yn ddiweddarach heddiw i drafod beth fydd yn digwydd i adeilad canolfan ddŵr Yr Heulfan yn y Rhyl.

Cyhoeddodd y cyngor yn gynharach eleni y bydden nhw’n rhoi’r gorau i ariannu Hamdden Clwyd – y cwmni sy’n rhedeg yr Heulfan – o fis Ebrill ymlaen, gan ddweud ei fod yn ormod o risg iddyn nhw.

Mewn adroddiad, cafwyd argymhelliad i beidio ag ail-agor yr adeilad fel cyfleuster hamdden ac i ymchwilio’r potensial ar gyfer defnydd arall i’r adeilad.

Bydd y cabinet hefyd yn trafod cyflwr Canolfan y Nova a Chanolfan Fowlio Gogledd Cymru, sydd hefyd yn cael eu rhedeg gan Hamdden Clwyd.

‘Dim synnwyr economaidd’

Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor: “Mae’r gost a’r risg o weithredu’r cyfleusterau yn yr Heulfan wedi bod yn ffactorau wrth i ni lunio’r argymhelliad i beidio ag ail-agor yr atyniad.

“Rydym yn credu fod y risg ariannol fyddai ynghlwm ag ail-agor yr Heulfan yn ormod, gan y byddai angen llawer o fuddsoddiad ar gyfer gwaith brys.

“Byddai’r math hwn o fuddsoddiad y tu hwnt i gyfrifon y Cyngor; ni fyddai’n darparu gwerth am arian.

“Rydym hefyd yn credu na fyddai’n gwneud synnwyr economaidd i ail-agor y Nova o flaen yr adnewyddiad arfaethedig, yn nhermau’r gost o weithredu’r cyfleuster yn y tymor byr.”

Bydd y Cabinet yn cymryd y penderfyniad terfynol mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir, Rhuthun ddydd Mawrth, 25 Mawrth.