Malcolm Fyfield
Mae disgwyl i’r rheithgor dyngu llw yn achos cyn reolwr glofa’r Gleision sydd wedi ei gyhuddo o achos marwolaeth pedwar o lowyr.
Malcolm Fyfield oedd yr unig un i oroesi’r ddamwain ym mhwll y Gleision ger Pontardawe yn 2011.
Fe lwyddodd i ddringo allan o’r pwll ar ôl i alwyni o ddŵr lifo i mewn gan ladd Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, Garry Jenkins, 39, a David Powell, 50.
Mae Fyfield yn gwadu pedwar cyhuddiad o ddynladdiad tra bod MNS Mining Cyf, oedd yn cynnal y pwll ar y pryd, wedi pledio’n ddieuog i bedwar cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.
Roedd Fyfield a dau gynrychiolydd o MNS yn Llys y Goron Abertawe ddoe pan gafodd y rheithgor eu dewis.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams bod disgwyl i’r achos barhau am o leiaf 4 mis a bydd mwy na 90 o dystion yn rhoi tystiolaeth.