Mae graddfa chwyddiant wedi gostwng i’w lefel isaf ers pedair blynedd, yn ôl ffigurau swyddogol heddiw.
Roedd prisiau petrol is wedi helpu chwyddiant i ostwng i 1.7% ym mis Chwefror.
Dyma’r pumed gostyngiad misol yn olynol gan gynyddu gobeithio y bydd y wasgfa ar gyflogau yn y sector preifat yn dod i ben.
Roedd graddfa Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi gostwng i 1.7% o 1.9% ym mis Ionawr – targed Banc Lloegr oedd 2%.
Roedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sydd hefyd yn mesur chwyddiant, wedi gostwng 2.7% ym mis Chwefror o 2.8% ym mis Ionawr.