Fe fydd athrawon ledled Cymru yn cynnal streic o fewn y 24 awr nesaf, oherwydd anghydfod sy’n parhau gyda’r Ysgrifennydd Addysg, Michael Gove ynghylch tâl, pensiynau a llwyth gwaith.
Dywedodd David Evans, Cadeirydd Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (NUT), nad oes cadarnhad o faint o ysgolion fydd yn cael eu heffeithio gan y streic.
Ond mae’n rhybuddio y bydd rhaid cau “nifer fawr” o ysgolion, “yn llawn neu yn rhannol.”
‘Dim wedi newid’
Yn ôl Christine Blower, Ysgrifennydd Cyffredinol NUT: “Does dim wedi newid er gwell i athrawon.
“Mae dau mewn pump o athrawon yn gadael y proffesiwn o fewn pum mlynedd o ganlyniad i lwyth gwaith annioddefol am amodau tal a phensiynau. Mae’n rhaid i’r pryderon yma gael eu cydnabod os ydym ni am osgoi argyfwng cyflogi athrawon.
“Rŵan, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae’n amser i undebau sefyll gyda’i gilydd i amddiffyn eu haelodau.
Mae aelodau UNSAIN, ynghyd ag aelodau Undeb Prifysgolion a Cholegau ac Unite Cymru eisoes wedi strecio ar Hydref 31, Rhagfyr 3 a dros y tridiau diwethaf, ynglŷn â gostyngiad o 13% yn eu cyflogau dros y pum mlynedd diwethaf.
Mae Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) wedi penderfynu peidio galw ar aelodau’r undeb i streicio ar 26 Mawrth, gan ddweud y byddan nhw’n ceisio datrys yr anghydfod trwy drafodaethau ac ymgyrchu.